RHAGFYR 2009
SHIFT OLAF YN FFATRI EATON - Mae 90 o bobl yn cael eu gwneud yn ddi-waith o uned gynhyrchu Eaton Electrical, gan adael tua 40 yn weddill i wasaethu cwsmeriaid sydd eisioes wedi prynu offer.
CYNLLUN SWYDDFEYDD A WARWS MAWR - Mae Cwmni Buddsoddi Conygar wedi cyflwyno cais cynllunio ar gyfer adeiladau newydd ar safle Parc Cybi. Maent yn cynwwys tri uned swyddfa deulawr o safon uchel ger mynedfa'r parc, ynghyd a pedwar uned warws diwydiannol gyda 110,000 troedfedd sgwar ger yr A55, er mwyn denu cwmniau cludiant sydd yn chwilio am leoliad ger y porthladd. Rhag09
TACHWEDD
CYNLLUNIAU MAWR AR GYFER YR HARBWR - Mae Conygar Stena Line wedi cyflwyno cais i Gyngor Sir Ynys Mon am eu barn ar pa faterion sydd angen eu hystyried wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer datblygu rhan o'r harbwr allanol. Rhagwelir y bydd y datblygiad yn cynnwys marina pontwn newydd ar gyfer tua 500 o gychod gyda morglawdd, gwesty newydd, unedau hamdden/gwerthu, tua 500 o unedau preswyl, clwb hwylio newydd, lle cadw a trin cychod, llefydd parcio, tirlunio, ac adeiladedd newydd. Byddai amgueddfa forol fwy a rheilffordd i ymwelwyr yn gysylltiedig. Rhagwelir y bydd cais cynllunio ffurfiol yn 2010. Tach09
PWERDY NIWCLEAR - Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Prydain am 10 safle, mae RWE npower yn gwahodd cymunedau Ynys Mon i ddarganfod mwy am eu cynllun i greu gorsaf niwclear newydd yn Wylfa. Bydd arddangosfa Caergybi ar ddydd Llun 30 Tachwedd, Canolfan Ucheldre 2-8pm.T
CAIS AM 140 o DAI NEWYDD - Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gwneud cais cynllunio i adeiladu tua 140 o dai ar safle 3.9 ha i'r gogledd o safle Parc Cybi, ger cyffordd 2 yr A55.T
HYDREF
GWYL LLYMARCH 2009 - Bu gwyl flynyddol eleni yn llwyddiant mawr, gyda arddangos a gwerthu cynnyrch bwyd a diod lleol yng ngwesty Bae Trearddur.H
DYMCHWEL CAPEL - Mae pobl lleol wedi mynegu pryder ynglyn a dymchwel Capel Disgwylfa ar Ffordd Llundain fel colled adeilad pwysig. Dywedodd Cyngor Sir Mon nad oedd yn adeilad wedi ei restru. Credir bod y perchnogion sef Gwynedd Shipping wedi ei ddymchwel oherwydd pryderon am ei gyflwr ac er mwyn ehangu eu safle.
DIWEDD AR SMELTIO ? - Mae Aliwminiwm Mon wedi peidio a smeltio ac yn cadw eu cyfleusterau ar gyfer ail-ddechrau posib yn y dyfodol. Bydd gweithgareddau "ail-doddi" yn parhau. Bydd y gweithlu yn disgyn i tua 80 erbyn Ionawr 2010. Mae tua 450 o staff yn cael eu diswyddo, yn cynnwys 140 yn wirfoddol. Mae'r Canolfan Gwaith yn gweithredu canolfan arbennig yn Llangefni yn ystod pythefnos cyntaf mis Hydref er mwyn delio gyda'r galw am eu gwasanaeth.
GOLAU GWYRDD I GYNLLUN TREF HANESYDDOL - Mae cabinet Cyngor Mon wedi cytuno i dderbyn grant Treftadaeth y Loteri, ac i symud ymlaen i sefydlu Menter Treflun Hanesyddol gwerth tua £3m ar gyfer gwella a hyrwyddo canol hynafol y dref.
STAFF STENA YN ENNILL Y LOTERI - Ymddengys bod syndicate o staff Stena wedi ennill tua £2.3M ar y Loteri, a dywedir eu bod yn derbyn tua £70,000 yr un.
AWST
CYNLLUN I NEUADD Y FARCHNAD - Mae cais cynllunio wedi ei gyflwyno i addasu adeilad hanesyddol Neuadd y Farchnad i greu canolfan chwarae plant ynghyd a defnyddiau eraill.
CADARNHAU DISWYDDIADAU ALIWMINIWM - Mae Aliwminiwm Mon wedi cadarnhau bwriad i gael tua 140 o ddiswyddiadau gwirfoddol a tua 250 o ddiswyddiadau gorfodol, y rhan fwyaf i gymeryd lle ddchrau Hydref, gan adael tua 80 o swyddi i redeg gweithgareddau "re-melt". Bu trafodaethau funud-olaf ynglyn ag arian gan y llywodraeth allai arbed llawer o swyddi, ond ni fu modd cyrraedd cytundeb. Mae asiantaethau lleol wedi bod yn gweithio efo'r cwmni i gytuno ar sut i roi cymorth a chyngor i'r staff a effeithir.
ARBED SWYDDI YN EATON - Bydd hyd at 40 o swyddi yn cael eu cadw yn Eaton wedi derbyn cynnig o grant gan y Cynulliad. Fe wnaeth hyn helpu dwyn perswad ar y cwmni i gadw uned gwasanaethu ar Ynys Mon yn hytrach na'i ail-leoli i bencadlys Prydain Eaton yn Birmingham. Disgwylr y bydd 100 o ddiswyddiadau erbyn diwedd 2009 gyda cau y ffatri gynhyrchu.
GORFFENNAF
SALWCH YN AMHARU YMWELIAD LLONG - Mae ymweliad llong mordaith y Marco Polo ar Ddydd Sadwrn yr 11 Gorffennaf wedi ei gaslo oherwydd salwch ymysg y teithwyr a'r criw tra yn yr Alban. Bydd ymweliad llong llai yr Europa ar Ddydd Gwener yn dal i ddigwydd.
CYNNIG LLYWODRAETH I ARBED FFATRI - Mae adroddiadau yn y wasg yn awgrymu bod y llywodraeth wedi cynnig £48M i Aliwminiwm Mon i gadw eu ffatri yn agored, ond nad oedd y cwmni yn ystyried hyn yn ddigonol iddynt gadw eu gweithgareddau presennol.
BARWNES KINNOCK O GAERGYBI - Mae Glenys Kinnock sy'n wreiddiol o Gaergybi wedi ei gwneud yn Weinidog Ewrop yng nghabinet llywodraeth Prydain. Er mwyn caniatau hyn, cafodd hi sedd yn Nhy'r Arglwyddi, gan ddewis defnyddio enw ei chartref gwreiddiol. Dymunwn yn dda iddi yn ei swydd newydd.
BUDDSODDI MEWN CLWB NOS - Bydd clwb nos yng Nghaergybi yn ail-agor ar ol derbyn buddsoddiad o £375k. Mae clwb yr Hibernian wedi cael addasiadau sylweddol, a bydd yn cael ei ail-enwi yn "Pirahna". Bydd yr agoriad ar y 17 Gorffennaf.
MEHEFIN 2009
ADOLYGU PORTHLADDOED - Mae Pwyllgor Materion Cymreig y Ty Cyffredin yn gwneud adolygiad o borthladdoedd Cymru. Maent wedi ymweld a Caergybi ac wedi derbyn gwybodaeth am y dref, yn cynnwys y cynlluniau i wella mynediad i'r porthladd, creu glanfa llongfau mordaith, a'r angen am barc loriau.
CYNLLUN MARCHNATA I LONGAU MORDAITH - Mae Cyngor Mon wedi derbyn cymeradwyaeth i ariannu cynllun Y Don Geltaidd, sef menter gyda cyllid £1m Interreg i ddenu mwy o gychod mordaith i Gaergybi a 5 porthladd arall yn Mor Iwerddon. Gobeithir gweld 30 o longau yn ymweld pob blwyddyn erbyn 2013.
OPSIYNAU I YSGOLION CYNRADD - Mae adroddiad wedi ei gyhoeddi gan yr Awdurdod Addysg yn edrych ar opsiynau gwahanol i ysgolion cynradd Caergybi. Mae pump o'r saith ysgol efo llefydd gwag, cyfanswm o 300 o lefydd. Un opsiwn yw adeiladu dwy ysgol newydd yn eu lle.
CYNLLUN NEWYDD I LEIHAU DIWEITHDRA - Mae llywodraeth Prydain wedi cynnig £380k dros ddwy flynedd i gynllun i leihau anweithgaredd economaidd o fewn wardiau Cymunedau yn Gyntaf ar Ynys Mon a Gogledd Gwynedd. Bydd y fenter newydd yn cael ei arwain gan Elizabeth White, cyn swyddog adfywio Caergybi.
MAI 2009
CYNLLUN GORSAF BWER - Mae Aliwminiwm Mon yn datblygu cynllun i adeiladu gorsaf bwer ar gyfer eu safle yng Nghaergybi. Bu arddangosfa gyhoeddus yn Neuadd y Dref Caergybi ar y 16 & 17 Mehefin. Byddai yr orsaf £600m yn defnyddio pren wedi ei falu ac yn cyflogi tua 100 o bobl i'w redeg. Mai09.
CANOL TREF I GAEL £4M - Bydd canol tref Cargybi yn derbyn siar o £4m allan o becyn adfywio £37m ar gyfer saith tref yng Ngogledd Cymru a gyhoeddwyd gan y Cynulliad ar y 9fed Mai. Bydd yn cael ei ariannu o raglen Cydgyfeiriant Ewrop a cronfeydd eraill. Bydd yn cynnwys gwella eiddo wedi ei dargedu, uwchraddio yr ardal drefol, gwell arwyddion, menter treftadaeth, a rheolaeth canol tref. Mai09.
TYMOR TRENAU STEM YN CYCHWYN - Bydd y cyntaf o saith o deithiau trenau stem o Loegr i Gaergybi yn ymweld a'r dref ar ddydd Sadwrn y 10fed Mai.
NIFER CYCHOD AR I FYNY - Mae ymgyrch marchnata llwyddiannus a darparu ar gyfer docio uniongyrchl ar y jeti aliwminiwm wedi sicrhau y bydd 10 cwch fordaith yn glanio yn 2010. Mae pump cwch wedi trefnu ymweld yn 2009, gyda'r cyntaf ar yr 11fed Mai.
EBRILL 2009
CYNHADLEDD ECONOMI CAERGYBI - Fe drefnodd Cyngor Tref Caergybi a Bwrdd Caergybi Ymlaen gynhadledd arbennig yn Neuadd y Dref ar ddydd Gwener y 24 Ebrill. Daeth dros 40 o gynrychiolwyr o'r sectorau cyhoeddus, busnes, a cymunedol ynghyd i ystryried a cytuno ar sut y dylid ymateb i'r sialensau econonmaidd mawr sy'n wynebu'r dref. Ebrill09
CADEIRYDD Y BWRDD YN YMDDEOL - Mae cyfnod Steve Jones fel cadeirydd annibynol Bwrdd Caergybi Ymlaen wedi dod i ben. Diolchwyd yn gyhoeddus iddo am ei wasanaeth i'r dref yn ystod Cynhadledd Economaidd Caergybi. Mae Steve Jones wedi ei benodi yn Brif Weithredwr corff newydd Tai Ceredigion, a dymunwn y gorau iddo yn ei swydd newydd. Ebrill09
TRAFOD DYFODOL FFATRI - Bu Ysgrifennydd Cymru Paul Murphy yn cynnal trafodaethau efo gweinidogion a swyddogion o lywodraeth Prydain a'r Cynulliad i drafod ffordd ymlaen posib ar gyfer ymestyn contract trydan Aliwminiwm Mon wedi y 30 Medi 2009. Cychwynodd cyfnod ymgynghori swyddi 90 diwrnod ar y 3ydd Ebrill.
CAERGYBI YN FWY - Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cadarnhau is-ddeddf sy'n ymestyn ffiniau tref Caergybi i gynnwys ardal Penrhos, a oed gynt yn rhan o gymuned Trearddur. Mae yr ardal sydd bellach yn swyddogol yn rhan o Gaergybi yn cynnwys Aliwminiwm Mon, Parc Gwledig Penrhos, Parc Siopa Penrhos, a safle busnes Parc Cybi.
£2M I GYMUNEDAU'N GYNTAF - Mae partneriaethau cymunedol Caergybi wedi derbyn cyllid tair blynedd hyd Mawrth 2012 gan Lywodraeth y Cynulliad. Mae'r arian yn cynnwys £1,022k i Plas Cybi, £597k i Morlo, a £471k i Porthyfelin. Mae cyllid Plas Cybi yn cynnwys ariannu tim o weithwyr amgylcheddol i'r dref.
TESCO AM EHANGU - Mae cwmni Tesco wedi gofyn am ganiatad i ddyblu maint eu archfarchnad yng Nghaergybi. Byddai y cynllun yn golygu estyniad mawr, creu llawr cyntaf i roi caffi, a creu maes parcio ar lefel uwch.
CANOLFAN KINGSLAND - Mae cynllun £1.5m ar gyfer adeiladu canolfan gofal plant a cymunedol yn ardal Kingsland yn gam yn agosach ar ol derbyn cynnig o £200k gan Gronfa Cyfleusterau Cymunedol y Cynulliad.
WAL NEWYDD I FAE TREARDDUR - Mae Gweinidog Amgylchedd y Cynulliad, Jane Davidson AC wedi cyhoeddi cwblhau gorffen morfur newydd £1.9m i Fae Trearddur. Ariannwyd y wal newydd ar y cyd gan y Cynulliad a'r Cyngor Sir er mwyn amddiffyn y pentref rhag llifogydd o'r mor.
GWELLA CANOLFAN HAMDEN - Mae Pwyllgor Gwaith y Cyngor Sir wedi penderfynu i fynd ar ol yr opsiwn o wella ac ymesatyn y Ganolfan Hamdden presennol, i gynnwys cartref i'r clybiau codi pwysau a bocsio.
£1M I GYNLLYN TAI FFORDDADWY - Bydd cynllun i adeiladu 16 o dai fforddadwy ar safle bler ar Ffordd Turkeyshore yn mynd yn ei flaen diolch i grant o £1.1M gan y Cynulliad. Mae'r cynllun yn gyd-fenter rhwng Gwasanaeth Tai y Cyngor Sir, cymdeithas tai Tai Eryri, a cwmni Watkin Jones fel datblygwr.
AD-DREFNU YSGOLION DAN YSTYRIAETH - Bydd dyfodol ysgolion cynradd Caergybi yn cael ei adolygu gyda'r posibilrwydd o ad-drefnu.
CHWEFROR 2009
GWASANAETH FFERI YN DYCHWELYD - Bydd cwmni Irish Ferries yn mynd yn ol i redeg dau wasanath fferi cyflym ar y Swift pob dydd rhwng Caergybi a Porthladd Dulyn o 27ain Chwefror ymlaen.
CYNLLUNIAU TERFYNFA MORDAITH - Mae cwmni ymgynghori peirianyddiol Hyder wedi eu cyflogi gan Lywodraeth y Cynulliad i ddylunio terfynfa mordaith Gogledd Cymru yng Nghaergybi. Chwef09
SIOPAU BACH I ELWA O GRANT NEWYDD - Mae rheol yn eithrio siopau o dderbyn grantiau busness lleol wedi ei godi. Bydd siopau bach yn gymwys i ymgeisio dan gynllun newydd sy'n cychwyn mis Ebrill 2009.
GORYMDAITH PROTEST EATON - Bu protestwyr yn gorymdeithio trwy dref Caergybi ar Ddydd Sadwrn 14 Chwefror i alw am gadw rhai o'r 265 o swyddi Eaton sydd am gael eu colli yn 2009. Fe'i trefnwyd gan undeb Unite ac fe orffenodd gyda cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Dref. Chwef09
BUDDSODDIAD FFERI YN CREU SWYDDI - Mae cwmni Stena yn buddsoddi £3m yn eu dwy fferi fawr - yr Aventurer a'r Nordica. Mae yr Adventurer cyflym wedi dychwelyd o'i addasiadau blynyddol, a bydd yn gadael Caergybi yn ddyddiol am 10:30 y bore, gan ddychwelyd am 1:30 y prynhawn. Bydd y Nordica yn cludo twristiaid ynghyd a loriau yn y dyfodol, a bydd hyn yn creu tua 50 o swyddi newydd.
STRYDOEDD GLANAF CYMRU - Strydoedd Ynys Mon yw'r glanaf yng Nghymru yn ol Cadw Cymru'n Daclus. Contractwr glanhau stryd y Cyngor Sir ydi Verdant Group. Chwef09
CYNLLUN MELINAU GWYNT TESCO - Mae Tesco plc wedi cyflwyno cais cynllunio i leoli dau dyrbin gwynt 10.6m o uchel ar safle eu archfarchnad yng Nghaergybi. Chwe09
IONAWR 2009
CANLYNIADAU AROLWG MASNACHOL - Mae arolwg o eiddo masnachol ardal canol tref Caergybi wedi ei wneud ar gyfer mis Chwefror 2009. Mae'r canlyniadau yn dangos fod 211 o unedau, gyda 177 mewn defnydd, a 34 yn wag. Roedd y cyfradd gwagedd masnachol yn 16% o'i gymharu a cyfartaledd o tua 11% trwy Brydain. O'r unedau gwag, roedd 3 yn cael eu adnewyddu, a roedd 5 gyda tenantiaid / defnyddwyr wedi eu penodi.
GORSAF BWER NEWYDD YN DOD YN FWY TEBYGOL - Mae'r NDA wedi cadarnhau bod Wylfa yn un o bedair safle ym Mhrydain ble yr hoffent weld gorsafoedd niwclear newydd yn cael eu adeiladu. Amcangyfrifir y byddai y datyblygiad £2bn yn creu tua0,000 o swyddi adeiladu, a 1,000 o swyddi parhaol. 24/1/09
GWAITH YN CYCHWYN AR HANGAR £25M - Mae Grwp Adeilady Morgan Sindall wedi cychwyn gwaith ar adeiladu canolfan hufforddi hedfan cyflyn yn RAF y Fali, contract gwerth £25M.
PASBORT I FYND I'R IWERDDON - Bydd angen i deithwyr rhwng Cymru ac Iwerddon ddangos pasbort dan gynlluniau deddfwriaethol newydd gyda'r bwriad o gryfhau rheoli ffiniau. Ion09
AR FRIG Y TREFI GWAG - Mae cwmni ymchwil siopau Experian wedi cyhoeddi mai rhan o ganol tref Caergybi sydd a'r ail gyfradd uchaf o lawr siopa gwag yn y D.U. sef 27%. Mae hyn yn cymharu gyda tua 16% o unedau yn wag. Mae cyfran uchel o'r lle gwag o fewn tri uned fawr, sef adeilad hynafol Neuadd y Farchnad, ac adeiladau Kwik Save a Neuadd Bingo yr Empire. Roedd yr arolwg yn cynnwys Stryd y Farchnad a Stryd Stanley yn unig. Ion09.
DIWEDD SMELTIO YN ALIWMINIWM MON? - Daeth cyhoeddiad fod Aliwminiwm Mon yn "disgwyl diweddu gweithgareddau smeltio yn Medi 2009" gan eu bod wedi methu dod o hyd i ateb boddhaol i ymestyn eu contract pwer wedi Medi 2009. Dywed y bydd ymgynghori gyda'r gweithlu ac undebau yn cychwyn, ond hefyd y byddant yn edrych ar weithgarddau diwydiannol posib eraill, yn cynnwys parhau rhai presennol. Mae'r ffatri yn cyflogi dros 500 ar hyn o bryd. Mae'r datganiad gan y cwmni yn ymddangos ar www.riotinto.com ac mae cyhoeddiad hefyd ar www.kaiseraluminium.com (dan Investors). 15.1.09
TYWYSOG WILLIAM YN RAF Y FALI - Cyhoeddwyd y bydd y Tywysog William, neu Training Flt.Lt.Wales fel y'i gelwir, yn gwario cyfnod yn RAF y Fali i hyfforddi fel peilot helicopter achub Sea King. Mae'r awyrlu yn arfer defnyddio harbwr Caergybi fel llecyn hyfforddi achub o helicopter.
CADARNHAU CAU FFATRI EATON - Cafyd cadarnhad y bydd tua 265 o swyddi yng nghwmni cynhyrchu offer trydanol Eaton Electrical yn cael eu colli. Cafodd staff y newydd y bydd y ffatri Caergybi yn cau yn 2009, gan ddechrau efo colli swyddi yn mis Mawrth. Mae Eaton yn bwriadu canoli cynhyrchu yr offer yma ar dir mawr Ewrop gyda cwmni Almaenig Moeller. Cafodd Grwp Gweithredu Cymuned ei ffurfio yn mis Hydref er mwyn cydlynu ymateb i'r cyhoeddiad o fwriad cau. Ion09
LLE GWYRDD GORAU CYMRU - Mae Parc y Morglawdd wedi ei enwi gan bapur newydd y Times fel un o bedwar Lle Gwyrdd Gorau Prydain. Gweler www.timesonline.co.uk dan Travel > 2008 Green Spaces Travel Awards. Ion09