05/09/2010 - 01:03
Diweddarwyd - 04/09/2010 08:55
Caergybi 2008
       

IONAWR

CANOLFAN HYFFORDDI Y GEMAU OLYMPAIDD - Cafodd Caergybi ei ddewis fel lleoliad hyfforddi codi pwysau yn ystod Gemau Olympaidd 2012. Bydd hwn yn cael ei leoli yng Nghlwb Codi Pwysau Caergybi yn Millbank, sydd yn adnabyddus am lwyddiant yn y maes yma, yn cynnwys ennill medalau rhyngwladol.

ENNILL GWOBR TWRISTIAETH - Mae tren bach Caergybi wedi ennill gwbobr fel atyniad twristiaeth newydd gorau Ynys Mon mewn seremoni gwobrwyo twristiaeth a gynhalwyd yng Nghwesty Treysgawen.

TREF YN GYMWYS AM GYLLID ADFYWIO - Mae Caergybi wedi ei gynnwys ar restr o 44 o lefydd sy'n mynd i fod yn gymwys i ymgeisio am siar o £100M o gyllid Blaenoriaeth 5 ar gyfer "Adeiladu Cymunedau Cynaladwy" dan raglen Cydgyfeiriant Ewrop.  Bydd y cyllid ar gyfer adfywio ffisegol, yn cynnwys gwelliannau canol tref, ac adfywio cymunedol.

FFRAM ADEILAD NEWYDD YN NEWID GOLYGFA - Mae ffram ddur adeilad £2M newydd yn newid ymddangosiad canol y dref. Mae'r darbygiad caffi/bar a swyddfeydd yn ffurfio rhan o becyn £4m Gwella Canol Tref Caergybi sy'n cael ei ariannu yn bennaf o Ewrop. Mae gwelliannau eraill ar y gweill ar Ffordd Fictoria yn cynnwys gwella cefnau bler a creu maes parcio i ymwelwyr. http://www.propertypilot.co.uk/pdf/160+785.PDF

CYHOEDDIAD DATBLYGIAD I'R GLANNAU - Mae Stena wedi creu cyd-fenter efo Cwmni Buddsoddi Conygar plc er mwyn datblygu tir dros-ben sydd yn eu perchnogaeth yng Nghaergybi. Mae Conygar wedi ymrwymo £7M er mwyn talu costau datblygu'r cynllun gyda Stena yn cyfranu tir. Mae Conygar eisioes yn datblygu cynllun sylweddol ar gyfer Doc Penfro - gweler www.martelloquays.co.uk am fanylion pellach

CHWEFROR

UNEDAU BUSNES NEWYDD - Mae gwaith wedi cychwyn ar adeiladu bloc o bedair uned busnes newydd ar Barc Busnes Penrhos. Disgwylir y bydd y datblygiad yma o unedau 150msg gan y Cyngor Sir i gwrdd a'r galw lleol am eiddo fel hyn yn barod erbyn mis Awst.

LANSIO CYNLLUN ADFYWIO £15M - Cafodd cynllun cyllido adfywio stategol ei lansio yng Nghwesty Bae Trearddur gan Leighton Andrews, Gweinidog yn Llywodraeth y Cynulliad. Disgwylir i Gaergybi dderbyn siar sylweddol o hwn tuag at gynlluniau megis adfywio glannau'r dref a creu glanfa i gychod mordeithio.

CLOD I FWYTY NEWYDD - Cafodd bwyty newydd Mala's Bistro yng nghanol y dref glod hael mewn adolygiad "Taste Test" papur newydd y Daily Post.

MAWRTH

LLITHRFA A STORFA CYCHOD - Mae cynllun £500k wedi cychwyn er mwyn gwella adeiledd i gychod pysgota bach ger Bol Sach yn yr harbwr allanol. Mae'r cynllun yn cael ei ariannu gan Gronfa Pysgodfeydd Ewrop ac Adran Pysgodfeydd y Cynlliad.

SINEMA AR AGOR - Mae Sinema'r Empire yng Nghaergybi wedi ail-agor.

EBRILL

TRENAU STEM YN DOD I GAERGYBI - Bu dau dren stem yn cludo 800 o deithwyr yn dod i Gaergybi yn ystod mis Ebrill.  Mae cyfanswm o ddeg tren stem i ymweld a'r dref yn ystod gwanwyn / haf 2008.

CYNLLUN AR GYFER YR HARBWR MEWNOL - Mae Cadeirydd Bwrdd Caergybi Ymlaen, Steve Jones, wedi cyhoeddi fod syniad yn bodoli gan ymgynghorwyr i ail-ddatblygu rhan o'r Harbwr Mewnol yn y dyfodol, a cafodd eu bwriad ei ddatgelu i gyfarfod y Bwrdd yn mis Ebrill.

ADEILADU SIOP MORRISONS - Mae gwaith paratoi safle wedi cychwyn ar gyfer siop fawr newydd Morrisons, gyda'r ffram ddur yn cael ei adeiladu. Mae Morrisons wedi hysbysebu swyddi rheolwr ac is-reolwr i'r siop.

CYSWLLT GEFEILLIO YN DATHLU PENBLWYDD - Bu Corff Cyswllt Caergybi a Dun Laoghaire yn dathlu ei benblwydd yn ddeg oed mewn cinio yng Nghwesty Bae Trearddur. Derbyniodd Jeff Evans, trefnydd "Y Linc" yng Nghaergybi, wobr a llythyr o ddiolch gan brif weinidog Iwerddon Bertie Aherne.

GWELLA SIOP CANOL Y DREF - Mae siop fawr y Co-op yn Stryd y Farchnad wedi derbyn buddsoddiad preifat o £300k, yn cynnwys gwella blaen y siop a'r tu mewn.

MAI

CYNLLUN YSGOL YN ENNILL ARIAN LOTERI - Mae Partneriaeth Cymunedol Morlo wedi ennnill Grant £9,298 gan y Loteri Fawr ar gyfer gwelliannau amgylcheddol o gwmpas Ysgol Llanfawr. 

CWCH HWYLIO FAWR - Bu cwch hwylio fawr rig-sgwar y Kaskelot sy'n 47 medr o hyd yng Nghaergybi ar Fehefin y 4ydd a'r 11fed Mehefin yn rhoi tripiau hwylio tair awr - gweler www.square-sail.com

NEWIDIADAU ETHOLIADOL - Mae pedwar cynghorydd sir newydd yn cynrychioli Ynys Gybi, yn dilyn etholiadau lleol Mai 1af. Mae yna hefyd nifer fach o gynghorwyr tref newydd. Gweler www.ynysmon.gov.uk

MEHEFIN

DYMCHWEL YSGOL HANESYDDOL - Mae'r Cyngor Sir wedi cadarnhau eu bwriad i ddymchwel hen adeilad Ysgol Cybi, sydd yn wag, ac nid yw yn adeilad rhestredig.

AIL FRANDIO CAERGYBI - Mae'r Cyngor Sir wedi cymeradwyo cais am arian Ewrop Interreg i dalu am greu delwedd newydd i Gaergybi. Mae'n ffurfio rhan o gynllun pedwar-tref yn cynnwys hefyd Rhyl, Athy, a Dun Laoghaire.

CYNLLUN CAU SWYDDFWYDD POST - Mae tri Swyddfa Post yn ardal Caergybi ar restr o 57 sydd i gau yng Ngogledd Cymru. Y tri ydi :- Church Terrace, Neuadd Llaingoch, a Pont Rhydybont. Mae cyfnod o ymgyngfhori am saith wythnos gan y Swyddfa Post. Gweler www.postoffice.co.uk dan "network change update".

CAU BLYCHAU FFON - Mae cynnydd mewn defnydd ffonau symudol yn golygu bod BT yn bwriadu lleihau y nifer o flychau ffon cyhoeddus ym Mon, yn cynnwys pedwar yng Nghaergybi. Mae nhw wedi gofyn beth yw barn Adran Gynllunio Cyngor Sir Ynys Mon am hyn.

COST TANNWYDD YN TARO AMSER FFERI - Mae cynnydd pris olew wedi gorfodi Stena i arafu fferi cyflym yr HSS sy'n teithio rhwng Caergybi a Dun Laoghaire. Bydd rwan yn cymeryd 16 munud yn ychwanegol i groesi.

COFIO SUDDO'R LEINSTER 90 MLYNEDD YN OL - Mae Swyddfa Post Iwerddon wedi cyhoeddi stamp arbennig i goffau suddo, gan dorpedo yn ystod y Rhyfel yn 1918, y llong fferi RMS Leinster arferai hwylio rhwng Caergybi a Kingstown. Cynhelir gwasanaeth coff yn Eglwys St.Michael yn Dun Laoghaire ar y 10fed Hydref am hanner dydd.

CYHOEDDI CYMORTHDAL GWLEDIG - Bydd y cyfan o Ynys Gybi, ynghyd a gweddill Ynys Mon yn derbyn £2.6M o arian Ewrop ar gyfer prosiectau Datblygu Gwledig dros y dair blynedd nesaf, yn cynnwys twristiaeth, treftadaeth, bwyd lleol a gweithgareddau eraill.

MODRWY OES EFYDD - mae archeolegwyr wedi darganfod modrwy aur ar safle Parc Busnes Parc Cybi sy'n dyddio i tua 2,000 C.C.   LLONG MORDAITH YN GALW -  Ar ddydd Gwener y 6ed Mehefin, glaniodd y "Saga Rose" gyda 600 o deithwyr, gan ddefnyddio y jeti aliwminiwm. Bydd y gwch fawr nesaf yn galw Mis Medi. GWEFAN BWYD NEWYDD - Mae gwefan newydd wedi ei sefydlu i hybu bwyd a llefydd bwyta allan yn ardal Caergybi. Gweler www.holyheadfood.com

GORFFENNAF

PENWYTHNOS GWYL CAERGYBI -  Roedd Gwyl Caergybi ar benwythnos y 26 a 27 Gorffennaf, yn llwyddiant mawr. Bu torfeydd yn mwynhau ffair, arddangosfeydd hanes a milwrol, ceir clasurol, teithiau hovercraft, deifio, crefftau, a mwy. Ar y nos Sadwrn roedd sioe grwp teyrnged Abba a sioe hypnotieiddio.

DYCHWELYD ANGOR YR ANGLIA - Mae angor wedi ei godi o weddillion llong yr Angla, ac fe'i croesawyd gan Faer Caergybi Cyng Ailia Lewis ac aelodau o'r Amgueddfa Forol ar y 15 Gorffennaf. Cafodd llong fferi yr Anglia ei defnyddio fel cwch ysbyty yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ond fe suddodd ger Dover. Mae'r angor bellach yn y mor yn y porthladd yn disgwyl gwaith cadwraeth.

AWST

DYDDIAU RECRIWTIO MORRISONS - Daeth dros 700 o bobl i dri diwrnod agored ar y 3/4/5 Awst gan gwmni Morrisons yn Neuadd y Dref i hyrwyddo swyddi yn eu siop fawr newydd sydd i agor ddiwedd y flwyddyn. Awst 08

DYNODI FEL CANOLBWYNT - Mae Caergybi wedi ei ddynodi gan gynllunwyr y Cynulliad fel un o chwech canolbwynt economaidd yng Ngogledd Cymru. Mae Diweddariad 2008 Cynllun Gofodol Cymru hefyd yn dangos Caergybi fel "Canolfan Adfywio Allweddol" a "Llecyn Cyswllt Cenedlaethol".

CYNLLUN EHANGU TESCO - Mae cynlluniau wedi ymddangos i bron a dyblu maint siop Tesco yn y dref, ynghyd a dec parcio mawr. Bu'r cynllun ar ddangos i'r cyhoedd, a disgwylir cais cynllunio.

ARIAN EWROP I YMESTYN CANOLFAN - Bydd Canolfan Gymunedol Ffordd Llundain yn cael estyniad yn y misoedd nesaf, yn dilyn llwyddiant Partneriaeth Morlo wrth derbyn £200k o arian Amcan Un, a hefyd Grant Gwella Tref. Awst 08

GWYL TRENAU YN LLWYDDIANT - Daeth cannoedd i ymweld ag arddangosfa trenau bach yn Neuadd y Santes Fair ar Wyl y Banc ddiwedd Awst, a drenwyd i gyd-fynd ag ymweliad gan dren stem o Lerpwl. Roedd y stondinwyr yn hapus ac yn gobeithio y bydd yn cael ei gynnal eto y flwyddyn nesaf. Awst 08

MEDI

CYFLEUSTERAU NEWYDD I BYSGOTWYR - Mae iard newydd a llithrfa well ar gyfer cychod pysgota lleol wedi eu cwblhau ar gost o £684k. Cynllun ar y cyd oedd hwn rhwng y gymdeithas pysgotwyr lleol a Cyngor Sir Ynys Mon. Cafodd ei gyd ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth y Cynulliad. Mae Cymdeithas Pysgotwyr Mon a Gogledd Cymru yn gweithredu o Neuadd y Dref Caergybi. Medi '08

YMWELIAD LLONG FORDAITH WEDI EI GANSLO - Cafodd y cynllun gan long fordaith y Jewel of the Seas i ymweld a Caergybi ar ddydd Iau Med 11fed ei ganslo oherwydd cyflwr y mor yn ei gwneud yn rhy beryglus i ddod a teithwyr i'r lan mewn tendrau. Bu raid canslo digwyddiadau amrywiol a drefnwyd i groesawu'r 2,500 o ymwelwyr oedd i fod i lanio. Mae hyn wedi cryfhau'r galwadau i adeiladu glanfa pwrpasol i gychod mordaith. Medi '08

HYDREF

AGORIAD SWYDDOGOL LON PARC CYBI - Bu Dirprwy Brif Weinidog y Cynulliad Ieuan Wyn Jones AS yn arwain agoriad swyddogol y ffordd newydd i wasanaethu parc busnes newydd £13M ar y 24 Hydref 2008. Mae'r cynllun wedi creu cyswllt uniongyrchol efo cyffordd 2 ar yr A55, ac mae hefyd yn creu gwell lon i Fae Trearddur.

TORRI GWASANAETHAU FFERI - Mae Stena ac Irish Ferries wedi cyhoeddi y bydd gwasanaethau fferi cyflym yn cael eu torri i un y dydd o fis Tachwedd 2008 ymlaen, oherwydd cyfuniad o gostau tannwydd uchel a llai o draffic dros y gaeaf. Bydd gwasaethau ychwanegol dros gyfnod prysur y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Mae Stena hefyd wedi cyhoeddi y bydd y Stena Nordica yn cymeryd lle y Stena Seatrader, a bydd yn cludo teithwyr yn ogystal a nwyddau.

TACHWEDD

SWYDDFA POST ARALL I GAU - Mae Swyddfa Post Church Terrace yn un o bump arall yn y Gogledd sydd i gau dan gynllun ad-drefnu swyddfeydd post.

CYNLLUN TWRISTIAETH GER YNYS LAWD - Mae consortiwm datblygu lleol YLD Cyf wedi cyflwyno cais cynllunio i ail-ddatblygu caffi South Stack Kitchens i greu Canolfan Ymwelwyr trawiadol newydd, gyda caffi, siop, a 10 fflat gwyliau.

GLANFA MORDAITH YN AGOSACH - Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gwahodd pedwar cwmni peirianyddol i dendro er mwyn dylunio glanfa cychod mordaith newydd, ynghyd ag estyniad i jeti Aliwminiwm Mon.

COFFAU SUDDO'R LEINSTER - Bu seremoni cofio ger cofadail Caergybi ar achlysur 90 mlwyddiant suddo llong yr RMS Leinster gyda colli dros 500 o fywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

NEWYDDION AM GAU FFATRI EATON - Mae bygythiad i tua 265 o swyddi yng nghwmni cynhyrchu offer trydanol Eaton Electrical. Cafodd staff y newydd y gallai'r ffatri gau yn 2009, gan ddechrau efo colli swyddi yn mis Mawrth. Maent yn bwriadu canoli cynhyrchu yr offer yma ar dir mawr Ewrop gyda cwmni Almaenig Moeller. Mae Grwp Gweithredu Cymuned wedi ei ffurfio er mwyn cydlynu ymateb.  

CAU SWYDDFEYDD POST - Bydd is-swyddfeydd port yn Llaingoch a Pont Rhydybont yn cau, fel rhan o gynllun ail-drefnu sy'n gweld 60 yn cau yng Ngogledd Cymru. Hyd 08.

PARTNERIAETH YSGOL A BUSNES 'TIM CYBI' - Mae menter newydd i gysylltu yr Ysgol Uwchradd a Prif Gyflogwyr Lleol wedi ei lansio. Tach08

ESTYNIAD I'R GROES - Fel rhan o welliannau trefol, mae'r groes garreg fodern yn Sgwar y Farchnad wedi ei ymestyn i 4m o uchder, ac mae seddi newydd cerrig o'i amgylch. Mae geiriad ar y groes mewn pedair iaith - Cymraeg, Saesneg, Gwyddeleg, a Lladin. Tach08

CYNLLUN CABANAU - Mae cais cynllunio wedi ei gyflwyno ar gyfer 51 o gabanau gwyliau coed ar Barc Carafanau Bagnol a Tyn Tywyn ger Trearddur. Tach08

AGOR SIOP NEWYDD MORRISONS - Cafodd siop fawr newydd £25M cwmni Morrisons ei hagor gan Faer Caergybi Ailia Lewis ar Ddydd Llun yr 17 Tachwedd. Mae'r siop yn ardal Penrhos ger gyffordd 2 yr A55 wedi creu tua 250 o swyddi newydd.Tach08

CYNLLUN LLEOL NEWYDD - Mae cynllunwyr Ynys Mon wedi cyhoeddi cynllun datbygu drafft i gyfeirio datblygiadau yn y sir yn y cyfnod hyd at 2021, sy'n cynnwys cynlluniau a dyraniadau tir penodol yng Nghaergybi

AGORIAD SWYDDOGOL LON PARC CYBI - Bu Dirprwy Brif Weinidog y Cynulliad Ieuan Wyn Jones AS yn arwain agoriad swyddogol y ffordd newydd i wasanaethu parc busnes newydd £13M ar y 24 Hydref 2008. Mae'r cynllun wedi creu cyswllt uniongyrchol efo cyffordd 2 ar yr A55, ac mae hefyd yn creu gwell lon i Fae Trearddur.

RHAGFYR

WOOLWORTHS YN CAU - Bydd 19 o swyddi yn diflannu wrth i gwmni Woolworths gau eu siop yng Nghaergybi ar y 27 Rhagfyr, fel rhan o raglen cau Prydain-eang. Daeth torfeydd i wario yn siop Woolworths Caergybi yn dilyn cyhoeddi disgownt sylweddol. Mae tair swydd hefyd yn mynd  gyda cau siop Fads. Rhag08

CYNLLUN TWRISTIAETH NEWYDD - Mae Strategaeth Twristiaeth Arfordiriol newydd i Gymru yn cyfeirio yn benodol at gefnogi gwelliannau i lefydd megis Caergybi. Rhag08. BWYTY PUM SEREN - Mae y Bwrdd Croeso wedi cytuno i roi pum seren i 'fwyty gyda ystafelloedd' y Seacroft yn Mae TRearddur. Rhag08

GWASANAETH TREN CYFLYM I GAERDYDD - Mae Dirprwy Brif Weinidog y Cynulliad Ieuan Wyn Jones wedi lansio gwasaeth tren cyflymach rhwng Caergybi a Caerdydd, gan arbed tua 30 munud o amser teithio blaenorol.

AGOR ADEILAD NEWYDD - Cyhoeddwyd agoriad swyddogol adeilad newydd "Ty Celtaidd" yng nghanol y dref ar y 12fed Rhagfyr 2008 gan Ieuan Wyn Jones AS, Dirprwy Brif Weinidog y Cynulliad. Cafodd yr adeilad ei greu fel rhan o becyn £6M o welliannmau i ganol tref Caergybi yn y cyfnod 2005-2008. Rhag08.

PRYDER AM GYHOEDDIAD RIO TINTO - Mae grwp metalau byd-eang Rio Tinto wedi cyhoeddi y bydd yn colli 14,000 o swyddi. Maent yn gyd-berchnogion ar Aliwminiwm Mon ac nid ydym eto yn gwybod beth fydd yr effaith ar y cwmni sydd yng Nghaergybi. Rhag08

Dylunio a deilio gan WiSS Cyf, gyrrwyd gan WiSSCMS
Hawlfraint © 2010