05/02/2012 - 08:08
Diweddarwyd - 22/01/2012 13:51
Cyflogaeth a Hyfforddiant
       

Mae cyflogaeth a hyfforddiant yn faterion allweddol i adfywiad llwyddiannus Caergybi.

Eaton Electrical ac Aliwminiwm Mon

Mae dau o brif gyflogwyr Caergybi yn cwtogi eu gweithlu yn sylwddol iawn yn ystod 2009. Roedd Eaton yn cyflogi tua 265 a bydd yn cyflogi tua 40 yn unig erbyn Ionawr 2010. Roedd Aliwminiwm Mon yn cyflogi tua 540 a byddant yn cyflogi dim ond tua 80 erbyn dechrau 2010. Mae hyn yn ergyd fawr i'r dref, ac mae dau Grwp Gweithredu Cymundol wedi bod yn cyfarfod i gydlynu yr ymateb lleol i hyn o safbwynt asiantaethau gwahanol yn cydweithio efo'r cwmniai i roi cyngor a gwybodaeth, ail-hyfforddi, a cyngor ar sut i sefydlu busnes. Mae y cynllun  REACT yn cyllido costau ail-hyfforddi ac yn gallu rhoi cymorthdal i gyflogwyr sydd yn rhoi swydd i weithwyr di-waith.

Gwasanaethau Cyflogaeth a Hyfforddi

Mae yna eisioes amrediad eang o gyfleusterau, cyrff, cyrsiau, a gweithgareddau yng Nghaergybi sy'n cefnogi cyflogaeth a hyfforddiant yn y dref. Mae rhai ohonynt wedi eu rhestru yma :-

Canolfan Gwaith / Gwasanaeth Cyflogaeth - mae Canolfan Gwaith Caergybi ar Stryd Newry Fawr ger canol y dref, ble mae cefnogaeth a gwybodaeth i rai sy'n chwilio am waith, ymghyd a gwasaethau eraill. Ffon 01407 602500

Working Links - mae hwn yn gynllun arbennig i helpu pobl economaidd anweithgar a di-waith tymor-hir i ddarganfod gwaith, ac mae ganddynt adeilad yn Stryd Boston yng nghanol y dref. Tel. 01407 769531 - SWYDDFA WEDI CAU

Canolfan JE O'Toole - mae Canolfan Gweithwyr Di-waith Caergybi wedi ei leoli yng nghanol y dref ac yn cael ei redeg gan Gyngor Sir Ynys Mon. Ffon 01407 760208

Coleg Menai - mae cyfleusterau Coleg Menai yng Nghaergybi wedi eu lleoli yn Ty Cyfle yn Stryd y Farchnad, ble cynhelir amrywiol gyrsiau. Ffon 01407 765755

Cyrsiau Addysg Gymunedol - mae amrywiol gyrsiau ar gael yng Nghaergybi gan wahanol sefydliadau. Am wybodaeth am y rhain, ewch i www.cwrsimimon.org

Ymddiriedolaeth Cyfleoedd Caergybi - maent yn fenter cymunedol wedi eu lleoli yn Ty Cyfle ac mae nhw'n gweithredu nifer o gynlluniau hyfforddiant i waith ac eraill ar draws ardal ddaearyddol eang. Ffon 01407 765914

Cymunedau yn Gyntaf - mae y tri partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf yng Nghaergybi yn darparu gweithgareddau hyfforddi cymunedol o fewn eu hardaloedd penodol o'r dref.

Morlo - Ffon 01407 765119

Plas Cybi - Ffon 01407 765832

Porthyfelin - Ffon 01407 765832

Gyrfa Cymru - mae y ganolfan yn Sgwar y Farchnad yng nghanol y dref yn rhoi cymorth i rai 16-25 oed i fynd o addysg i waith. Ffon 01407 762177

Cynllun Anweithgaredd Economaidd Mon a Menai - mae hwn yn gynllun dwy flynedd (hyd Mawrth 2011) i leihau lefelau anweithgaredd ar Ynys Mon a Gogledd Gwynedd. Caiff ei redeg gan ddwy swyddog wedi eu lleoli yn CAST, Parc Menai, Bangor. Ma y cynllun wedi sicrhau £370k gan y DWP yn Llundain i gefnogi mesurau i leihau anweithgaredd o fewn wardiau amddifad yr ardal. Mae cyrff lleol ac asiantaethau perthnasol yn gallu gwneud cais am gyfraniad o'r gronfa at gynlluniau perthnasol o fewn wardiau cymwys, sy'n cynnwys y rhan fwyaf o Gaergybi. Cysylltwch efo rheolwr y cynllun Elizabeth White ar 07795427033 neu 01248 752480 am wybodaeth bellach.

   

Dylunio a deilio gan WiSS Cyf, gyrrwyd gan WiSSCMS
Hawlfraint © 2012