07/09/2010 - 14:05
Diweddarwyd - 04/09/2010 08:55
Cyswllt Caergybi a Dun Laoghaire
       

Mae Cyswllt Caergybi a Dun Laoghaire yn dyfod â phobl o'r ddau borthladd, tref ac ardaloedd cyfagos at eu gilydd. Ei amcan yw i hyrwyddo a hybu cyd-weithio rhwng y bobl a'r cymunedau o Dun Laoghaire a'r ardal, a Chaergybi a'r ardal. Cyd-weithio mewn agweddau o fywyd - gan gynnwys diwylliant, datblygu cymunedol, addysg, chwaraeon, arforol, yr Heddlu, amgylchedd, busnes a chyfleoedd economaidd. Mae'r Cyswllt yn  gorff sydd heb duedd gwleidyddol, yn ddi-sectyddol ac yn wirfoddol.    

Mae'r Cyswllt yn cyfarfod yn reolaidd, bob yn ail yng Nghaergybi a Dun Laoghaire. Mae'n gweithredu fel catalydd i ddyfod â phobl a sefydliadau at eu gilydd. Mae'n  annog a chyd -weithio gyda phrosiectau sy'n cynnwys  pobl a sefydliadau o Gymru ac Iwerddon. Mae aelodaeth ar gael i unigolion a sefydliadau sy'n derbyn rheolau ac amcanion y Cyswllt, a thalu y tanysgrifiad blynyddol.  

Llwyddodd y Cyswllt i sicrhau arian Interreg UE i gefnogi eu gweithgareddau yn y gorffennol. Mae esiamplau o weithgareddau a phrosiectau y Cyswllt i'w canfod isod:-

  • Pabell Caergybi - Dun Laoghaire yn Sioe Môn
  • Presenoldeb y Cyswllt yn y Sioe Ceffylau, Dun Laoghaire 
  • Prosiect ar y cyd i gynnwys Heddlu Gogledd Cymru a'r Garda
  • Prosiect Arlunio a Ffotograffiaeth, i gynnwys ysgolion 
  • Digwyddiadau pêl droed a bocsio 
  • Dathliadau Nadolig
  • Digwyddiad coffa Leinster  

Manylion Cyswllt yr Ysgrifennydd

Selwyn Williams, Bryn Goleu, Mount Street, Porthaethwy, Ynys Mon LL59 5BW              Ffon 01248 716370

Cynllun BRAND

Y mae'r Linc wedi arwain at nifer o gynlluniau pellacj rhwng y ddwy wlad. Un felly yw cynllun BRAND, sef menter ail-frandio trefi Caergybi, Rhyl, Dun Laoghaire, ac Athy. Ariannir y cynllun tair blynedd yma yn bennaf gan raglen Interreg Ewrop. Dau arian cyfatebol ar gyfer elfen Caergybi gan y Cynulliad, Cyngor Mon, a Cyngor Tref Cargybi. Enw'r swyddog prosiect i Gaergybi ydi Siwan Owens, cyswllt d/o Canolfan Busnes Mon ffon 01248 752480.


 

Dylunio a deilio gan WiSS Cyf, gyrrwyd gan WiSSCMS
Hawlfraint © 2010