07/09/2010 - 14:10
Diweddarwyd - 04/09/2010 08:55
Ystadegau Caergybi
       

Cyfrifiad 2001

Mae ystadegau manwl ar gyfer wardiau Ynys Môn, Caergybi a wardiau Caergybi wedi eu cynhyrchu yn rhan o Gyfrifiad 2001 y DU. Bydd Cyfrifiad nesaf y DU yn 2011. Mae adroddiad crynodol yn dangos ystadegau allweddol ar gyfer wardiau Caergybi ar gael i'w islwytho islaw.

botwm pdf Ystadegau ar gyfer Wardiau Caergybi Cyfrifiad 2001
Adroddiad cryno - Dogfen Ddwyieithog

Yn ogystal gellir edrych ar adroddiadau'r Cyfrifiad ar y wefan ystadegau cenedlaethol.
www.statistics.gov.uk ac ar www.neighbourhood.statistics.gov.uk

Mynegai Cymru o Amddifadedd Lluosog

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynhyrchu mynegai cyfnodol o lefelau amddifadu economaidd -gymdeithasol lleol. Roedd adroddiad ward-seiliedig 2001 yn dangos bod pedair o wardiau Caergybi ymhlith y 100 ward "waethaf " yng Nghymru. Mae'r mynegai newydd a gyhoeddwyd yn 2005 yn seiliedig ar LSOA, gyda llawer mwy ohonynt yng Nghymru na wardiau. Mae fersiwn 2008 ohono wedi ei gyhoeddi.

Gellir gweld y mynegai newydd ar wefan y Cynulliad Cymreig www.wales.gov.uk o dan "WIMD" neu gallwch chwilio ar wefan Uned Ddata Llywodraeth Leol drwy glicio yma

Ystadegau Porthladd

Mae ystadegau ar gael yn dangos symudiadau trafnidiaseth fferi blynyddol o wahanol fathau. Cysylltwch â ni am wybodaeth bellach.

Ystadegau Eraill / Cymorth

Gellir cael mynediad i lawer o ystadegau yn adran gyfeirio llyfrgelloedd cyhoeddus. Llyfrgell Caergybi Rhif ffôn: 01407 762917. Mae gan Adran Bolisi Gwasanaeth Cynllunio'r Cyngor Sir fynediad i lawer o wahanol fathau o ystadegau a gall y bydd yn gallu cynorthwyo gyda'ch ymholiad. Rhif ffôn: 01248 752400.

 

Dylunio a deilio gan WiSS Cyf, gyrrwyd gan WiSSCMS
Hawlfraint © 2010