05/02/2012 - 08:10
Diweddarwyd - 22/01/2012 13:51
Arian a Cymhelliant
       

Ceir gwahanol ffynonellau ariannu a chynlluniau anogaeth y perir eu bod ar gael yng Nghaergybi. Mae'r hyn a ganlyn yn darparu crynodeb o'r prif gynlluniau. Nid yw'r rhestr yn un gyfansawdd a gall fod cynlluniau eraill yn bodoli sy'n berthynol i'ch prosiect.
Nid yw rhestru cynlluniau yma o angenrheidrwydd yn golygu eu bod ar gael ar hyn o bryd, neu y bydd eich prosiect yn gymwys.

BUDDSODDIAD EIDDO

Cronfa Adfywio Trefol Cymru (RIFW) - cronfa wedi ei gyllido gan y Cynulliad ac Ewrop ar gyfer cefnogi datblygiadau eiddo preifat mewn trefi yn ardal Gorllewin Cymru a'r Cymoedd sy'n ffurfio rhan  strategaeth adfywio trefol - mae Caergybi efo y fath strategaeth. Mae'r cynllun yn darparu benthyciadau a cyfalaf buddsoddi ac yn disgwyl y bydd arian yn cael ei ad-dalu dros gyfnod penodol. Gweler www.rifw.co.uk am fanylion. Rhagwelir  bydd yn berthnasol i gynlluniau datblygu sylweddol - dros £3m mewn cost. Nid yw buddsoddiad tai yn gymwys.


Grant Gwella'r Dref (TIG) - Cynllun anogaeth gwella eiddo allanol gyda arian y Cynulliad (WDA gynt). Mae wedi newid rwan i gynllun PEG. Gweinyddir i Gaergybi gan Gyngor Sir Ynys Mon, cyswllt - Dave Jump, ffon 01248 752461 

 
Menter Treftadaeth Treflun (THI) - Cynllun i gynorthwyo gwella adeiladau hyn o fewn Ardaloedd Cadwraeth Dynodedig. Swyddog Prosiect THI Caergybi ydi Nathan Blanchard - ffon 01248 752461


Grant Tai Landlordiaid - Cynllun i annog buddsoddiad mewn adeiladau sydd ohoni i greu unedau tai i'w rhentu. Cyswllt - Uned Grantiau Tai CSYM, ffon 01248 750057 i holi am statws diweddaraf y cynllun.


Grantiau Gwella Tai - Cynllun i gynorthwyo perchnogion tai i wella eu tai. Fel uchod.



DIWYDIANT A BUSNES

Grantiau Cefnogi Busnes

Ystod o grantiau Cyngor Sir i gynorthwyo busnesau bach a chanolig eu maint i fuddsoddi. Cychwynodd cynllun y Gronfa Buddsoddi Lleol yn Ebrill 2009. Yn dilyn lobio gan Caergybi Ymlaen, bydd modd i siopau bach i wneud cais i gronfeydd grantiau busnes lleol. Cyswllt : Canolfan Busnes Mon ffon 01248 752480


Grant Buddsoddi y Cynulliad (SIF) - Cynllun newydd cyfunol ar gyfer cefnogi buddsoddiad ar gyfer prosiectau busnes cymwys, yn cynnwys sectorau diwydiannol a twristiaeth. Cynllun bellach wedi cau i geisiadau newydd.


Cymorth Detholedig Rhanbarthol (RSA) - Cynllun cefnogi buddsoddiad cyfalafol ar gyfer prosiectau mawr eu maint y Cynulliad Cenedlaethol.

Benthyciadau Busnes

Cyllid Cymru / Finance Wales - cynllun wedi ei sefydlu gan y Cynulliad i roi bethyciadau i gynlluniau busnesau twf - gweler www.financewales.co.uk am fanylion

 
PRIF BROSIECTAU ADFYWIO / ISADEILEDD/ ECONOMAIDD

Mae'r arian a ganlyn wedi ei sicrhau yng Nghaergybi:

Arian Amcan Un Ewropeaidd (gweler isod)
Cronfa Adfywio Leol y Cynulliad Cenedlaethol
Grant Cludiant y Cynulliad Cenedlaethol
Y Cynulliad Cenedlaethol - Cynlluniau Eraill

ARIAN EWROPEAIDD

Mae Caergybi wedi ei leoli o fewn ardal Amcan Un yr UE, ac mae wedi gallu cymhwyso ar gyfer cyllid o dan wahanol ddosbarthiadau ers 2001. Dyrannwyd y cyllid mewn nifer o ddosbarthiadau cymhwyso penodol, pob un gyda'i feini prawf ei hun. Roedd yn rhaid gwneud cais am arian, mewn cystadleuaeth â phrosiectau eraill drwy Orlllewin Cymru a'r Cymoedd. Hyd at Fawrth 2006, roedd cyfanswm arian Amcan Un a gymeradwywyd ar gyfer Ynys Môn yn dod i oddeutu £30M, y cymeradwywyd oddeutu £10M ohono ar gyfer prosiectau wedi eu lleoli yng Nghaergybi. Rhaid i wariant Amcan Un ar gyfer Cymru fod wedi ei wneud cyn diwedd Rhagfyr 2008 i fod yn gymwys. Mae taflen wedi ei pharatoi yn nodweddu prosiectau a ariannwyd gan Amcan Un yng Nghaergybi, ac mae ar gael ar gais.

Cyllid Cydgyfeirio

Mae rownd newydd o arian cefnogi rhanbarthol yr UE ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd wedi ei gadarnhau, ac mae rhai cynlluniau eisioes wedi eu cymeradwyo. Dylai'r "Gronfa Gydgyfeirio" fod ar gael am saith mlynedd, a tua'r un maint ag Amcan Un. Mae'r trefniadau ariannu a'r gweithgareddau cymwys ychydig yn wahanol i'r rhai o dan y rhaglen Amcan Un. Gweler gwefan WEFO am y manylion diweddaraf.

Gwefan: www.wefo.wales.gov.uk

            www.mon-ewrop.org

PROSIECTAU CYMUNEDOL

Mae'r rhestr canlynol yn cynnwys ychydig o'r ffynhonellau ariannu sy'n bosibl ar gyfer Caergybi:

Dyfarniadau i Bawb (Y Loteri)
Pobl a Lleoedd (Y Loteri)
Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau'n Gyntaf
Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Y Loteri Chwaraeon
Grantiau i Gyrff Gwirfoddol
Mongallwn
Grant Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol
Cynlluniau Menter Môn
Ymddiriedolaeth Trefnyddiaeth Rank

Yn ogystal mae yna nifer o gynlluniau ariannu eraill.

Mae Medrwn Môn yn darparu gwasanaeth darganfod grant i grwpiau cymunedol a gwirfoddol (Rhif ffôn: 01248 724944).

ARIANNU - CYNGOR CYCHWYNNOL AC ARWYDDBYST

Gellwch gysylltu â Uned Datblygu Economaidd Cyngor Sir Ynys Mon am gyngor cychwynnol a'r llwybr ariannu gorau a awgrymir/ymgynghorydd ar gyfer eich prosiect - Rhif ffôn: 01248 752480

 

Dylunio a deilio gan WiSS Cyf, gyrrwyd gan WiSSCMS
Hawlfraint © 2012