07/09/2010 - 14:13
Diweddarwyd - 04/09/2010 08:55
Buddsoddiad Masnachol
       

Mae Caergybi'n profi buddsoddiad masnachol newydd ar raddfa heb ei thebyg o'r blaen a mae'r dref yn awr yn un o leoliadau buddsoddiad preifat pwysicaf y rhanbarth.

buddsoddiad masnachol newydd

Mae'r hyn a ganlyn yn adnabod rhai cynlluniau buddsoddi sylweddol:

Archfarchnad Tesco

Agorodd y siop fawr hon ger Cyffordd 2 yr A55 yn 1998. Mae'n denu niferoedd mawr o siopwyr o Ynys Môn gyfan, yn ogystal â llawer o ddefnyddwyr y fferi. Rhoddwyd caniatad cynllunio ar ddechrau 2010 i ymestyn a newid y siop.

Archfarchnad Lidl

Datblygwyd y safle ger mynedfa'r Porthladd/Pont Ddu (Black Bridge) i ddarparu archfarchnad Lidl a agorodd yn 2002.

Parc Manwerthu Penrhos

Mae tir gerllaw Stad Ddiwydiannol Penrhos wedi ei ddatblygu i ddarparu pedair uned fasnachol fawr a agorodd yn ystod 2003. Y tenantiaid manwerthu presennol yw Argos,
QS, Poundland a Farm Foods.

Netto a McDonalds

Mae'r safle llociau gwartheg blaenorol gerllaw Cyffordd 1 yr A55 wedi ei adhawlio a'i ddatblygu i ddarparu archfarchnad Netto a Thy Bwyta Mc Donalds, gyda'r ddau yn agor yn 2004.

Parc Manwerthu Caergybi

Mae ardal sy'n ffurfio rhan gynnar o Stad Ddiwydiannol Penrhos wedi ei hailddatblygu i ddarparu ail barc manwerthu, wedi ei leoli yn nesaf at Tesco a Pharc Manwerthu Penrhos. Mae deiliaid y safle hwn yn awr yn cynnwys Brantano, Peacocks, Carpet World, New Look a Wilkinsons. Agorodd y siopau hyn yn ystod 2005. Ceir un uned wag ar hyn o bryd.

Marina Caergybi

Mae'r datblygiad preifat hwn yn digwydd ar ochr ogleddol y dref, yn yr harbwr allanol/ardal Traeth Newry. Mae nifer yr angorfeydd pontydd llongau wedi cynyddu'n rheolaidd i oddeutu 150 a dylai gynyddu dros gyfnod i'r 500 y mae caniatâd iddynt. Bydd hwn yn cynnwys cyfleusterau marina ac unedau masnachol ar y llawr isaf a fflatiau preswyl o ansawdd uchel ar y lloriau uchaf.

Gwesty Newydd

Mae gwesty newydd £2M i 'Travelodge' wedi ei adeiladu yn Kingsland ger Cyffordd 1 o'r A55, a agorodd yn Hydref 2007.

Homebase Newydd

Homebase newydd wedi agor yng Nghaergybi ar 23 Mawrth 2007.

Adeilad Tirnod Canol y Dref

Cyngor Sir Ynys Môn, mewn partneriaeth â Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol wedi datblygu adeilad tirnod £2M newydd yn agos i bont y Porth Celtaidd, sy'n edrych dros yr Harbwr Mewnol. Mae hwn yn cynnwys uned fasnachol bwyd/diod sydd yn y broses o gael ei rentu ar sail fasnachol. Gweler http://www.propertypilot.co.uk/pdf/160+785.PDF 

Siop Morrisons Newydd

Mae siop fawr newydd i Morrisons wedi ei adeiladu yn Penrhos ar safle hen ffatri Hedstrom, ac agorodd yn Tachwedd 2008 gan greu tua 250 o swyddi.

Dylunio a deilio gan WiSS Cyf, gyrrwyd gan WiSSCMS
Hawlfraint © 2010