Mae'r rhai a ganlyn yn brosiectau sylweddol yn y sector twristiaeth a hamdden:
Travelodge Newydd
Mae gwesty newydd £2M wedi cael ei adeiladu yng Nghaergybi ger Cyffordd 1 o'r A55 yn Kingsland, yn agos i'r porthladd a canol y dref. Agorodd y gwesty 54 llofft fis Medi 2007, gan greu 15 o swyddi. Fe'i adeiladwyd ar safle ble roedd nifer o adeiladau gwag/ bler yn bodoli.
Gwesty Bae Trearddur
Mae canolfan gynadledda gwerth £2M wedi ei datblygu gyferbyn â'r gwesty, yn darparu ar gyfer creu cyfleusterau digwyddiadau o ansawdd uchel yn ardal Caergybi.
Y Porth Celtaidd a Lle Gadael Bagiau
Agorodd pont gerdded newydd ar draws yr harbwr mewnol fis Hydref 2007, yn ei gwneud yn llawer haws i deithwyr fferi, tren, cychod mordaith, a teithwyr tripiau tren stem i gyrraedd canol y dref. Cafodd lle gadael bagiau ei agor fis Ionawr 2007, ac mae'n cael ei redeg gan y Cyngor Tref er mwyn gadael i deithwyr adael eu bagiau ac ymweld a'r dref.
Ehangu'r Amgueddfa Forwrol
Mae gwelliannau sylweddol wedi eu gwneud i'r amgueddfa. Mae un elfen o'r prosiect yn cynnwys addasu'r hen loches cyrchoedd awyr amser rhyfel i greu man arddangos "Caergybi Amser Rhyfel" a'i ymestyn i greu ystafell arteffactau. Mae'r elfen arall yn cynnwys ailgyflunio'r amgueddfa i ddarparu caffi/ bistri newydd sy'n edrych dros yr harbwr, yn cynnwys man eistedd deciau awyr agored.

Trên Dir Caergybi
Mae grwp o wirfoddolwyr wedi llwyddo sefydlu a rhedeg gwasanaeth trên dir i ymwelwyr ar hyd promenâd Traeth Newry. Mae'r grwp yn awr yn cynnig sefydlu rheilffordd ymwelwyr a fyddai yn y pen draw yn ymestyn rhwng Parc Gwledig y Morglawdd a'r goleudy ym mhen draw'r Morglawdd. www.holyheadbreakwater.com
Byrddau Gwybodaeth Ymwelwyr
Gosodwyd cyfres o fapiau gwybodaeth ymwelwyr a phaneli dehongli treftadaeth mewn gwahanol leoliadau yng Nghaergybi yn ystod 2005. Mae paneli pellach yn cael eu cynnig yn awr mewn lleoliadau eraill.
Arddangosfa Twristiaeth Fferi'r HSS
Gosodwyd man gwybodaeth ymwelwyr yn nodweddu Ynys Môn, Caergybi a Dun Laoghaire ar fferi'r HSS yn gynnar yn 2005 fel modd o gynhyrchu ymweliadau ychwanegol gan ddefnyddwyr fferi.
Marina Caergybi
Mae marina mawr yn cael ei adeiladu yn yr harbwr allanol, ar ochr ogleddol y dref. Ceir ar hyn o bryd oddeutu 150 o angorfeydd pontydd cychod, a gynyddir dros gyfnod i oddeutu 500. Mae datblygiad ar y lan drws nesaf i'r marina yn awr ymhell ar y gweill a bydd yn darparu cyfleusterau marina ac unedau masnachol ar y llawr isaf ac unedau preswyl o ansawdd uchel ar y lloriau uchaf.
Caffi Rhyngrwyd
Fe agorwyd Gaffi Rhyngrwyd newydd yng Nghaergybi yn ystod Rhagfyr 2005.
Denu Llongau Mordaith
Mae cynllun y "Celtic Wave" wedi cychwyn dan raglen Interreg - cynllun ydi hwn i hyrwyddo a marchnata porthladdoedd Cymru ac Iwerddon er mwyn denu mwy o ymweliadau gan longau mordaith. Cyngor Sir Ynys Mon sydd yn arwain y cynllun tair blynedd yma. Cyswllt : Sue Thomas neu Hazel Hollingsworth - ffon 01248 752480
Ail-Frandio a Marchnata Caergybi
Mae cynllun tair-blynedd ail-frandio a marchnata Caergybi wedi llwyddo i sicrhau cyllido Interreg. Mae yn gynllun ar y cyd efo trefi Dun Laoghaire, Rhyl, ac Athy.