Saif Caergybi yng ngwlad Cymru - rhan Geltaidd o'r Deyrnas Unedig sydd wedi dod yn gynyddol hunan-lywodraethol yn y degawdau diweddar, ac wedi ennill ei chynulliad cenedlaethol etholedig ei hun yn 1999. Mae'r cynulliad Cymreig yn cynnwys Aelodau Cynulliad etholedig (AC). Etholir y rhan fwyaf i etholaeth, ond ceir hefyd nifer a etholir drwy gyfundrefn restru plaid ranbarthol.

Llywodraeth Cynulliad Cymru
Mae llawer o swyddogaethau llywodraeth yng Nghymru yn awr yn gyfrifoldeb Llywodraeth Cynulliad Cymru, sydd wedi ei leoli yng Ngaerdydd. Mae'r swyddogaethau hyn yn cynnwys Iechyd, Llywodraeth Leol, Cludiant, Addysg a Datblygu Economaidd. Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru hefyd nifer o swyddfeydd drwy Gymru gyfan, ac mae wedi mabwysiadu polisi o adleoli rhai o'i wasanaethau i ganolfannau rhanbarthol. Mae swyddfa fawr newydd y Cynulliad Cymreig ar gyfer Gogledd Cymru newydd ei adeiladu yng Nghyffordd Llandudno.
Uno Asiantau Llywodraeth Cymru
Mae nifer o asiantaethau a reolir/gyllidir gan y Cynulliad Cymreig wedi eu llyncu gan strwythur Llywodraeth Cynulliad Cymru ers mis Ebrill 2006. Mae'r rhain yn cynnwys Asiantaeth Datblygu Cymru (WDA), y Bwrdd Croeso (WTB) ac Elwa (Addysg Dysgu Cymru).
Rhaglen Adfywio Mon a Menai
Mae'r Cynulliad wedi adnabod sawl ardal yng Nghymru ble bydd yn targedu adnoddau adfywio. Mae dwy o'r rhain yn y Gogledd. Y cyntaf yw ardal Mon a Menai, sef Ynys Mon a Gogledd Gwynedd. Yr ail ydi Arfordir Gogledd Cymru, sef trefi Rhyl a Bae Colwyn. Mae cyllideb o £15m wedi ei benodi i Mon a Menai, ac mae Bwrdd aml-asiantaeth yn edrych dros y rhaglen. Cyfarwyddwr cyntaf Mon a Menai oedd Dafydd Hughes, yn wreiddiol o Gaergybi. Y Cyfarwyddwr newydd ydi Gwyn Roberts, sydd wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu Cwmni Tref Caernarfon a'r Galeri.
Cefnogaeth Cynulliad Cymru i Gaergybi
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru (yn uniongyrchol a thrwy ei asiantaethau) yn brif gyllidwr gwahanol brosiectau a gweithgareddau adfywio yng Nghaergybi yn cynnwys y rhai a ganlyn:
Cymunedau'n Gyntaf - ariannu
Pecyn Cludiant ac Amgylchedd Caergybi - ariannu'r cynllun
Y Porth Celtaidd- arian cyfatebol
Parc Busnes Penrhos - arian cyfatebol
Parc Busnes Parc Cybi - buddsoddiad tir a gwasanaethu safle uniongyrchol
Cynllun Adfywio Canol y Dref - arian cyfatebol
Grantiau Gwella'r Dref (TIG) - grantiau i fuddsoddwyr eiddo
Gweithredu Busnes Caergybi (HBA) - grantiau i fusnesau bach
Cymorth detholedig Rhanbarthol (RSA) - grantiau i ddiwydiant
Grant Buddsoddi'r Cynulliad (AIG) - grantiau i ddiwydiant
Datblygu Twristiaeth - grantiau i fusnesau
Mentrau Addysg a Hyfforddiant - ariannu
Prosiect Cymdeithas y Pysgotwyr- arian cyfatebol
Cyswllt a Gwybodaeth
www.wales.gov.uk
John Humphreys yw Rheolwr Adfywio Ynys Mon - mae John wedi bod yn allweddol i lawer iawn o gynlluniau adfywio Caergybi.