Awdurdod y Dref
Mae Cyngor Tref Caergybi yn un o 40 o gynghorau tref a chymuned ar Ynys Môn. Y Cyngor tref / cymunedol mwyaf yn y sir ydyw yn nhermau poblogaeth a chyfrifoldebau. Mae Cyngor y Dref wedi bodoli ar wahanol ffurfiau ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu i ad-drefnu Llywodraeth Leol yn 1974 drosglwyddo llawer o gyfrifoldebau Cyngor Dosbarth Trefol Caergybi i Gyngor Bwrdeistref (Dosbarth) Ynys Môn a chreu'r Cyngor Tref Caergybi presennol. Mae arolwg o gynghorau tref a chymunedol yng Nghymru wedi ei wneud ac mae y Cynulliad yn argymell bod cynghorau tref a chymuned yn ennill cyfrifoldebau a cyllid ychwanegol yn y dyfodol.
Gwasanaethau Cyngor Tref
Mae y Cyngor Dref Caergybi yn darparu nifer o wasanaethau pwysig yn lleol. Mae nifer ac ansawdd y gwasanaethau a ddarperir wedi gwella'n arw yn y blynyddoedd diweddar. Mae enghreifftiau o'r gwasanaethau hyn yn cynnwys byrddau gwybodaeth ymwelwyr, gerddi lotment, cofadail, cloc y dref, golau Nadolig a cyfleusterau Paciau i'w Casglu. Mae'r Cyngor Dref nawr yn cyflogi 8 staff. Mae gwybodaeth am wasanaethau Cyngor y Dref ar gael ar eu gwefan.
Neuadd y Dref, Caergybi
Mae Y Cyngor Dref wedi ei leoli yn Neuadd y Dref, Caergybi yn Stryd Newry. Mae'r adeilad trefol Fictoraidd mawr hwn wedi ei adnewyddu yn ddiweddar i ddarparu derbynfa ac ystafelloedd staff gwell, lifft, a swyddfeydd o safon cyfoes i'w rhentu Ggyda lle i swyddfeydd ychwanegol uwchben y brif neuadd. Mae deiliaid eraill Neuadd y Dref yn cynnwys Cyngor Sir Ynys Môn, Partneriaeth Porthyfelin, Barnardos, Y Bwrdd Iechyd, Prosiect Lydia a Chymdeithas Pysgotwyr Gogledd Cymru. Mae cynlluniau am fwy o swyddfeydd newydd wedi eu dylunio a'u costio yn barod petae cyllid yn dod ar gael.

Cyswllt a Gwybodaeth
Gweler www.holyheadtowncouncil.com
Rhif ffôn: 01407 764608 (10yb-3yp Llun-Gwen)