Diolch i raglen 'Cymunedau'n Gyntaf' Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae gan Gaergybi yn awr dair partneriaeth gymunedol brysur. Mae'r rhain i gyd yn awr wedi eu sefydlu yn gwmnïau cyfyngedig nid er elw a chyda'i gilydd maent yn cyflogi dros ugain o staff sy'n gweithio ar ystod eang o weithgareddau adfywio cymunedol. Mae pedair o'r chwech ward Cymunedau'n Gyntaf ar Ynys Môn wedi eu lleoli yng Nghaergybi. Mae'r Cyngor Sir yn cyflogi cydlynydd sirol ar gyfer Cymunedau'n Gyntaf, wedi ei leoli yn Neuadd y Dref, Caergybi - Felicity Roberts - rhif ffôn 01407 764186.
Partneriaeth Plas Cybi Cyf.
Ffurfwyd Partneriaeth Plas Cybi trwy gyfuno Partneriaethau Ward Maeshyfryd a Ward Tref Caergybi.
Mae'r bartneriaeth hon yn cwmpasu wardiau Tref Caergybi a Maeshyfryd. Maent wedi eu lleoli ym Mryn Annex yn Stryd Williams (mewn adeilad y maent wedi ei brynu a'i adnewyddu) ac hefyd yng Nghanolfan Millbank. Mae enghreifftiau o'r nifer o brosiectau gan Plas Cybi yn cynnwys clwb cyn-ysgol/ar ôl ysgol y Santes Fair, menter hyfforddiant Gwestai Croesawus, cynllun gwelyau blodau/basgedi crog canol y dref, strategaeth amgylcheddol a canolfan cyfrifiadurol.

Rhif ffôn: 01407 764526 neu 01407 765832 www.plascybi.co.uk
Partneriaeth Gymunedol Morawelon a Ffordd Llundain Cyf. (MORLO)
Hon oedd partneriaeth gyntaf cymunedau'n gyntaf yng Nghaergybi, ac mae ei gwaith felly wedi ei ddatblygu'n dda. Maent yn cynnwys dwy ward ar ochr ddwyreiniol Caergybi, ac mae ganddynt oddeutu 6 o staff. Mae Morlo wedi ei leoli yng Nghanolfan Gymunedol Gwelfor ym Morawelon. Mae enghreifftiau o'r prosiectau niferus gan Morlo yn cynnwys Crèche Cymunedol, gyda'r Ganolfan Gymunedol newydd yn cael ei chreu yn y Ganolfan Deils (Tile Centre) flaenorol ar Ffordd Llundain a'r cynllun Prentisiaeth Gymunedol.
Cysyllter â: Rhif ffôn. 01407 765119 www.morlocommunitiesfirst.com
Partneriaeth Gymunedol Porthyfelin Cyf.
Mae'r bartneriaeth hon yn cwmpasu ward Porthyfelin ar ochr ogleddol Caergybi, yn cynnwys ardaloedd Waterside a Newry. Maent yn cyflogi tri aelod o staff, wedi eu lleoli yn Neuadd y Dref, Caergybi. Mae enghreifftiau o'u prosiectau'n cynnwys cyfrifiad cymunedol, strategaeth amgylcheddol a datblygu cynllun hyfforddi pobl lleol i wneud gwaith yn y maes hamdden awyr agored.
Cysyllter â: Rhif ffôn 01407 764222 www.porthyfelin.com