05/02/2012 - 08:21
Diweddarwyd - 22/01/2012 13:51
Grwpiau Prosiect
       

Grwpiau Caergybi Ymlaen

Yn rhan o drefniadau Caergybi Ymlaen a wnaed yn 2003, mae nifer o grwpiau wedi cael eu sefydlu i oruchwylio cyflwyno'r strategaeth adfywio. Bu llawer o newidiadau ers 2003 ac mae arolwg o'r grwpiau hynny wedi digwydd i sicrhau bod trefniadau yn amser-effeithlon ac yn gost-effeithlon ac yn osgoi dyblygu.

Rhan o'r bont newydd

 

Grwp Strategol Caergybi Ymlaen

Mae hwn in is-grwp o'r bwrdd sydd yn cael ei gadeirio gan Cyng. John Chorlton. Y mae bellach yn cyfarfod os oes angen delio efo materion penodol rhwng cyfarfodydd o'r Bwrdd llawn.

Grwp Pecyn Cludiant ac Amgylchedd Caergybi (HTEP)

Mae'r grwp hwn yn goruchwylio cynllunio a chyflwyno gwaith gwella cludiant a'r fro drefol, yn cynnwys Cynllun y Porth Celtaidd, Cynllun Adfywio Canol y Dref, Adleoli Pencadlys yr Orsaf a chynigion Ymestyn yr A55. Mae'r grwp yn derbyn adroddiadau gan Grwp Swyddogion Prosiect Caergybi ac eraill. Cyng. John Chorltan yw'r Cadeirydd

Grwp Sgiliau a Hyfforddi Caergybi

Mae hwn yn dwyn ynghyd cyrff hynny sy'n ymwneud â gweithgareddau sgiliau a hyfforddi yng Nghaergybi. Mae'r cyfrifiad wedi dangos y darperir nifer o wasanaethau cyffelyb gan lawer o gyrff a chytunodd y cyfarfod i'r angen am well cydlynu o fewn Caergybi. Ann Kennedy sy'n cadeirio'r grwp. 

Grwp Rheoli Canol y Dref

Mae hwn yn grwp rhanddalwyr i ganol y dref. Mae yn cynnwys busnesau, Cyngor Tref, Cyngor Sir, Partneriaeth Plas Cybi, a Menter a Busnes. Mae yn cyfarfod yn fisol, a'r cadeirydd ydi Cliff Everett.

Dylunio a deilio gan WiSS Cyf, gyrrwyd gan WiSSCMS
Hawlfraint © 2012