05/02/2012 - 07:57
Diweddarwyd - 22/01/2012 13:51
Proffil Caergybi
       

Poblogaeth

Poblogaeth breswyl y dref yn ôl Cyfrifiad 2001 oedd 11,237. Roedd poblogaeth breswyl Ynys Cybi yn ei chyfanrwydd yn 13,579. Mae poblogaeth Caergybi wedi disgyn o ychydig yn y degawdau diweddar oherwydd gwahanol ffactorau, sy'n cynnwys adeiladu tai cyfyngedig, maint llai cartrefi, newidiadau demograffaidd, ac amgylchiadau economaidd lleol, ond mae nifer o gynlluniau adeiladu tai wedi dod ymlaen yn ddiweddar. Mae'r boblogaeth yn yr ardaloedd amgylchynol megis Bae Trearddur wedi bod yn cynyddu.

Canol y dref diwrnod Marchnad

Hanes

Mae'r dref yn dyddio'n ol i adeiladu Caer Llynges Rhufeining tua 300AD, a sefydlu canolfan grefyddol o fewn ei muriau tua 540AD. Tyfod tref fechan yn raddol o'i chwmpas yn y canrifoedd oedd yn dilyn. Datblygodd Caergybi yn dref sylweddol yn bennaf oherwydd ei swyddogaeth fel porthladd sy'n cysylltu Iwerddon a Phrydain, a phenderfyniad y Morlys i greu harbwr cysgodol mawr yn lloches i longau hwylio drwy adeiladu'r morglawdd. Daeth hefyd yn ganolfan bwysig ar gyfer y rheilffyrdd. Datblygodd gwestai a siopau o hynny a daeth Caergybi yn brif dref wasanaeth ar gyfer llawer o Ynys Môn. Mae'r dref wedi datblygu hefyd yn ganolfan ddiwydiannol, yn cynnwys adeiladu ac atgyweirio cychod. Lleolwyd nifer o ffatrïoedd yng Nghaergybi yn ystod yr ugeinfed ganrif, gyda'r mwyndoddwr alwminiwm yn fwyaf ohonynt.

y borth

Cyflogaeth

Mae prif gyflogwyr yng Nghaergybi yn cynnwys y Porthladd/Stena, Alwminiwm Môn, Eaton, Iard Gychod Caergybi, Ysgolion, Canol Tref Caergybi, Tesco, Morrisons, a'r Parc Manwerthu. Caeodd ffatri Hedsrom yn ddiweddar gydag oddeutu 60 swydd yn cael eu colli. Ar y llaw arall, enillwyd oddeutu 60 o swyddi yn ddiweddar yn rhan o Ganolfan Alw newydd Stena. Mae'r Parc Manwerthu wedi creu tua 650 o swyddi rhan-amser yn bennaf, gyda Morrisons wedi creu tua 250 o swyddi yn ddiweddar. Bu colledion swyddi sylweddol yn ystod 2009 oherwydd gorffen smelio yn Aliwmoiniwm Mon (tua 450 o swyddi i ben) a cau uned cynhyrchu Eaton Electrical (tua 220 o swyddi i ben).

Yr Amgylchedd

Tref borthladd yw Caergybi, wedi ei lleoli mewn cyffiniau deniadol gwledig/arfordirol. Mae llawer o Ynys Cybi wedi ei dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Nodedig, ac mae'n cynnwys ardaloedd sylweddol o Arfordir Treftadaeth. Mae Ardaloedd Cadwraeth Treftadaeth wedi eu dynodi ar gyfer Canol Tref Caergybi, Traeth Newry, a Phentref Mynydd Caergybi. Mae'r ardal yn cynnwys nifer sylweddol o adeiladau rhestredig, henebion a gorchymyn cadw coed. Mae gwaith trin dwr gwastraff newydd wedi ei adeiladu i wella ansawdd dwr môr lleol.

ardal o harddwch naturiol nodedig

Cyfathrebiadau

Estynnwyd ffordd gyflym A55 Gogledd Cymru ar draws Ynys Môn yn 2001, ac mae'n darparu mynediad ffordd da. Mae Caergybi hefyd yn manteisio ar fynediad rheilffordd i Gaer, cysylltiadau fferi i Ddulyn a Dun Laoghaire, ac mae'n agos i faes awyr sifil bychan yn RAF y Fali. Mae cysylltiadau cyfathrebu TG Band Llydan ar gael yng Nghaergybi.

 

Dylunio a deilio gan WiSS Cyf, gyrrwyd gan WiSSCMS
Hawlfraint © 2012