05/02/2012 - 08:09
Diweddarwyd - 22/01/2012 13:51
Adfywio Canol Dref
       

Mae Canol Tref Caergybi yn ffocws nifer o wahanol fentrau adfywio. Mae'r prif gynlluniau presennol neu a gynllunnir wedi eu crynhoi isod:

Gwelliannau'r Dref

Mae gwahanol fentrau ar raddfa fechan yn digwydd i wella ymddangosiad ac apêl canol y dref, yn cynnwys darparu gwelyau blodau a basgedi crog, potiau blodau a choed, baneri stryd, baneri a goleuadau Nadolig.

Ymwelwyr yn eistedd tu allan i gaffi canol dref

Byrddau Arwyddion a Gwybodaeth

Mae arwyddion wedi eu hadnabod fel diffyg ac maent yn cael eu gwella. Mae nifer o fapiau ymwelwyr a byrddau dehongli wedi eu gosod. Mae gwelliannau arwyddion pellach yn cael eu cynllunio i gynorthwyo i gyfeirio pobl o feysydd parcio ac i leoedd o ddiddordeb.

Menter Treftadaeth Treflun

Mae llawer o ganol y dref wedi ei dynodi'n Ardal Gadwraeth hanesyddol. Bu cais Cam 2 gan y Cyngor Sir i Gronfa Treftadaeth y Loteri i ddarparu £1M tuag at welliannau eiddo o fewn yr ardal hon yn llwyddiannus a disgwylir y bydd y cynllun yn cychwyn erbyn Awst 2010. Gellir gweld gwybodaeth am gynllun Menter Treftadaeth Treflun ar www.hlf.org.uk

Cynllun Adfywio Canol Tref Caergybi (HTCRS)

Bu buddsoddiad o tua £6m i wella canol y dref yn y cyfnod Gorffennaf 2005 - Rhagfyr 2008 fel rhan o raglen Amcan Un Ewrop. Y Cyngor Sir fu'n arwain gyda chefnogaeth y Cynulliad. Roedd y cynllun yn cynnwys yr elfenau canlynol:-

  • Gwella Cilgant Stanley yn faes parcio/ maes parcio bysiau hir arhosiad
  • Uwchraddio toiledau Sgwâr Swift a strydoedd canol y dref
  • Clirio ardaloedd adfeiliedig ar hyd Ffordd Victoria i greu maes parcio arhosiad byr
  • Gwella cefnau eiddo ar hyd Ffordd Victoria
  • Gwella tu blaen eiddo canol y dref - (blaenau eraill yn cael eu gwella dan gynlluniau eraill)
  • Cefnogaeth i glirio adeiladau adfeiliedig yn Ffordd Kingsland
  • Datblygu adeilad tirnod yn nesaf at fan glanio'r Bont 

Roedd rhan o'r pecyn cyllido yn cynnwys arian refeniw i dalu am staff adfywio a chyllideb weithgareddau i ddarparu ar gyfer digwyddiadau a marchnata (yn cynnwys y wefan hon). Yn ogystal mae hyn wedi ariannu cyflwyno trefniadau traffic newydd yn Stryd Stanley a Stryd Williams.

Cynllun Adfywio Ffisegol Tair Tref Mon

Mae gwelliannau pellach i ganol tref Caergybi ar y gweill fel rhan o gynllun adfywio newydd. Y mae Caergybi, Llangefni ac Amlwch wedi eu cynnwys mewn pecyn i saith o drefi gogledd orllewin Cymru. Bydd tua £5M o gyllid i Gaergybi ar gyfer arwyddion, gwelliannau amgylcheddol, cynllun treftadaeth trefol, cymorth i ailddatblygu adeiladau gwag, a cynllun rheolaeth canol tref yn y cyfnod hyd at 2013. Y rhan gyntaf o'r pecyn i ddigwydd yw gwelliannau i ardal Marine Square, yn cynnwys gwaith ail-wynebu adeiladau a pafin.


Grantiau Gwella Eiddo

Perir bod Grant Gwella'r Dref ar gael yng nghanol tref Caergybi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, a all gyfrannu tuag at gostau gwella allanol cymwys. Mae Gwasanaeth Tai'r Cyngor Sir yn gallu darparu grantiau i landlordiaid ar gyfer creu neu wella llety preswyl mewn lle gwag mewn achosion cymwys. Mae cynlluniau eraill ar gael hefyd mewn rhai achosion.

grantiau gwella eiddo

Gwybodaeth Bellach

Cysyllter â: Alan Southall (Swyddog Adfywio Canol Trefi) ar Rif ffôn. 01248 752480


 

Dylunio a deilio gan WiSS Cyf, gyrrwyd gan WiSSCMS
Hawlfraint © 2012