Mae'r term "Porth Celtaidd" wedi ei gymhwyso i Gaergybi oherwydd ei swyddogaeth fel porth pwysig rhwng Cymru ac Iwerddon. Defnyddiwyd hwn yn deitl i gais cyllid cludiant UE llwyddiannus a mae'n awr wedi ei gymhwyso i'r prosiect. Mae'r cynllun yn ffurfio cam cyntaf Pecyn Cludiant ac Amgylchedd Caergybi a mae'n cael ei gyflwyno gan Wasanaeth Priffyrdd Cyngor Sir Ynys Môn.

Crynodeb o'r Cynllun
Roedd Cynllun y Porth Celtaidd yn cynnwys pecyn o isadeiledd cludiant cysylltiedig a gwelliannau perthynol, yn cynnwys yr hyn a ganlyn:
- Cyfleusterau a chysylltiadau gwell ar gyfer defnyddwyr bysiau yn y terminws fferi/yr orsaf
- Uwchraddio rhan o Blatfform 2 Gorsaf Reilffordd Caergybi
- Arwyddion, gwybodaeth a gwaith celf ar gyfer teithwyr
- Cyfleuster Paciau i'w Casglu yng Ngorsaf y Rheilffordd
- Cyswllt Sarnau ar draws yr Harbwr Mewnol (yn cysylltu Platfformau 1 a 2)
- Pont Dirnod dros y llinellau rheilffordd a Ffordd Fictoria, yn rhoi cyswllt cerddwyr/seilclwyr i/o Ganol Tref Caergybi
Ffynonellau Ariannu
Cafwyd arian ar gyfer y pecyn o nifer o wahanol ffynonellau yn cynnwys:
- Amcan Un UE (Cludiant a Hygyrchedd)
- Grant Cludiant y Cynulliad Cenedlaethol
- Cronfa Adfywio Leol y Cynulliad Cenedlaethol
- Asiantaeth Datblygu Cymru (Grant Gwella'r Dref)
- Cyngor Sir Ynys Môn (Rhaglen Gyfalafol Priffyrdd)
- Cyngor Celfyddydau Cymru
- Ymddiriedolaeth Treftadaeth y Rheilffordd
- Y Bwrdd Croeso
- Porth canol dref a CCTV
Catalydd Adfywio
Bu'r bont newydd yn destun llawer o ddadlau yng Nghaergybi. Mae'r rhai sydd eisoes wedi cerdded drosti wedi cael argraff dda iawn. Bu'r cynllun yn gatalydd ar gyfer nifer o ymholiadau buddsoddi a mae wedi dylanwadu'n gadarnhaol ar fidiau ariannu ar gyfer canol y dref. Yn ogystal â gwasanaethu anghenion cludiant, mae wedi cynyddu nifer y defnyddwyr fferi/rheilffordd a'r twristiaid sy'n ymweld â chanol y dref, a mae hefyd yn cynorthwyo i roi delwedd fwy cadarnhaol, cyfoes a dynamig i Gaergybi.
Agoriad Swyddogol
Fe agorwyd y Bont yn swyddogol gan Weinidog Llywodraeth Cymru Andrew Davies AC, ar ddydd Iau 19 Hydref 2006.
Cyfleuster Paciau i'w Casglu
Mae Cyngor Tref Caergybi yn rhedeg y gwasanaeth yma ers Ionawr 2007 er mwyn ceisio annog mwy o deithwyr i ymweld â Chaergybi.
Gwelliannau Pellach
Mae Caffi "Pumpkin" newydd wedi agor yn nghefynfa'r fferi, gyda lle eistedd allanol sy'n agor i'r Ganolfan Ymwelwyr. Mae gwelliannau eraill o gwmpas y bont yma dan ystyriaeth, yn cynnwys gwelliannau i'r Orsaf Drenau, a'r syniad o greu llwybr cerdded o gwmpas rhan o'r Harbwr Mewnol.