05/02/2012 - 08:26
Diweddarwyd - 22/01/2012 13:51
Strategaeth Sirol
       

Mae nifer o gynlluniau a strategaethau drwy'r sir yn bodoli ar gyfer Ynys Môn, sydd â dylanwad ar adfywio a datblygu Caergybi:

Strategaeth Datblygu Economaidd Ynys Môn

Mae hon yn gosod anghenion, cyfleoedd a chynigion datblygu economaidd ar gyfer y sir. Mae'n adnabod Caergybi'n benodol fel canolbwynt ar gyfer datblygu ac adfywio. Mae'r ddogfen wedi ei pharatoi gan Gyngor Sir Ynys Môn ar ran Partneriaeth Adfywio Economaidd Ynys Môn (PAEYM). Gellir cael copi drwy gysylltu â Chanolfan Fusnes Môn yn Llangefni ar y rhif ffôn 01248 752480 neu gweler yma.

Cynllun Datblygu'r Sir

Dealltir y sefyllfa bresennol mewn perthynas â sefyllfa'r cynllun datblygu statudol i fod fel a ganlyn:

Mae'r cynllun datblygu a fabwysiadwyd yn gyfreithiol yn cynnwys Cynllun Strwythur Gwynedd a Chynllun Lleol Ynys Môn. Mae Cynllun Datblygu Unedol (CDU) newydd ar gyfer Ynys Môn wedi ei baratoi a bu'n destun ymholiad cyhoeddus, ond nid yw wedi ei fabwysiadu'n ffurfiol, ond mae'n dwyn pwysau wrth wneud penderfyniadau cynllunio. Mae'r holl gynlluniau hyn yn adnabod Caergybi yn brif ganolfan ar gyfer datblygu. Mae cynllun newydd ar gyfer Ynys Môn yn awr yn cael ei baratoi o dan drefniadau'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLL) ar gyfer Cymru.

Cynllun Datblygu Lleol (CDLL)

Mae ymgyngoriad cyhoeddus ar y Cynllun Datblygu Lleol wedi cychwyn ar y 12 Tachwedd 2008, ac yn gorffen ar y 9fed Ionawr 2009. Gweler y linc i wefan y Cyngor www.ynysmon.gov.uk/doc.asp?catid=3076  am fanylion. Mae Caergybi wedi ei ddangos ar ddau fap, y gellir eu lawrlwytho o'r linc.

Gellir cael gwybodaeth/esboniad pellach cyfredol ac arweiniad ar bolisïau cynllunio ar gyfer Ynys Môn drwy gysylltu â Gwasanaeth Cynllunio'r Cyngor Sir. Rhif ffôn. 01248 752428 neu gweler yma


Cynllun Cymunedol Ynys Môn

Ceir nifer fawr o gynlluniau, strategaethau, a pholisïau eraill ar gyfer Ynys Môn yn cwmpasu gwahanol feysydd pwnc ee. cludiant, trosedd ac anhrefn, iechyd, addysg, gwastraff ayyb. Mae'n ofynnol i Gynghorau Sir yng Nghymru sicrhau y bydd y rhain yn cael eu cyfuno o dan "Gynllun Cymunedol" trosfwaol. Yn gysylltiedig a hyn mae Byrddau Gwasaethau Lleol yn cael eu creu ymhob sir yng Nghymru i gydlynu a gwella gwasanaethau i'r cyhoedd. Am fanylion pellach cysylltwch efo Uned Cynllun Cymunedol y Cyngor Sir- ffon. 01248 752446 , neu trwy wefan y Cyngor Sir yma

 

Dylunio a deilio gan WiSS Cyf, gyrrwyd gan WiSSCMS
Hawlfraint © 2012