Prif Gynlluniau
Defnyddir Prif Gynlluniau i osod dull hollgynhwysfawr o ddatblygu/gwella man penodol. Maent yn cynorthwyo i ddangos y "darlun mawr" a sut y mae gwahanol brosiectau a materion yn perthnasu â'i gilydd. Maent yn dod i gael eu defnyddio'n gynyddol yn rhan o weithgareddau adfywio, yn disgyn y tu allan i gyfundrefn y cynllun datblygu statudol a gellir yn aml eu newid a'u huwchraddio fel y mae amgylchiadau'n mynnu.

Prif Gynllun Adfywio Caergybi
Mae cynllun hollgynhwysfawr wedi ei baratoi i ddangos lleoliad y prif brosiectau adfywio a'r safleoedd datblygu yng Nghaergybi. Cynllun anffurfiol yw hwn a ddefnyddir ar gyfer gwybodaeth ac esboniad - nid cynllun datblygu strategol ydyw. Dogfen weithio yw'r cynllun sy'n gofyn am adolygiadau a chywiriadau a gobeithir cynhyrchu fersiwn newydd yn ystod 2009/10.
Mae copi o brif Gynllun Caergybi 2003 ar gael i'w islwytho yma.
Prif Gynllun Adfywio Canol y Dref
Paratowyd prif gynllun mwy manwl ar gyfer ardal canol y dref yn 2003 i ddangos lleoliad nifer fawr o brosiectau a gynigwyd neu a adnabuwyd ar gyfer yr ardal honno. Roedd hyn yn ffurfio rhan o Arddangosfa Adfywio 2003. Eto, cynllun gweithio esbonioadol anffurfiol yw hwn a nid yw'n gynllun datblygu statudol. Mae llawer o'r bwriadau arno bellach wedi eu gweithredu. Bwriedir cynhyrchu Cynllun Canol Tref newydd yn 2009/10 fel rhan o menter rheoli canol tref newydd.
Gellir islwytho copi maint llawn o Brif Gynllun Canol y Dref 2003 yma.
Cynllun i Ardal Glannau Caergybi
Mae ardal glannau Caergybi wedi ei nabod gan Fwrdd Caergybi Ymlaen fel ardal all wneud cyfraniad mawr i adfywio'r dref yn y dyfodol. Mae nifer o gynlluniau a syniadau gwahanol wedi dod ymlaen yn y blynyddoedd diweddar. Mae astudiaethau cychwynol wedi adnabod ardaloedd sy'n rhoi cyfle i ddatblygu, ond hefyd wedi adnabod ardaloedd agored sy'n bwysig i'r gymuned. Mae canyniadau'r gwaith cychwynol yma wedi ei adlewyrchu yn y Drafft o Gynllun Datblygu Lleol (CDLL) Ynys Mon, a gafodd ei ddosbarthu ar gyfer ymgynghori cyhoeddus yn Tachwedd 2008.
Mae'r CDLL drafft yn dangos ardaloedd o fewn yr Harbwr Allanol ble credir bod angen cynllun cyfunol i arwain datbygiad a gwelliannau i'r dyfodol. Mae'r CDLL Drafft yn bwriadu dynodi yn ffurfiol yr ardal werdd uchaf ar hyd Traeth Newry fel llain agored cyhoeddus. Cafodd y CDLL Drafft ei roi allan ar gyfer ymgynghori cyhoeddus rhwng y 12 Tachwedd 2008 a'r 9fed Tachwedd 2009, yn rhoi cyfle i'r cyhoedd i wneud sylwadau ar hyn, yn cynnwys arddangosfa yng Nghaergybi ar y 24 Tachwedd. Mae'r CDLL Drafft ar gael i'w weld wrth ei lawrlwytho o wefan y Cyngor Sir - gweler ein tudalen "Strategaeth Sirol".
Mae strategaeth y CDLL Drafft o hyrwyddo cynllun integredig newydd yn ar ardal o gwmpas y Marina a Penrhyn Marchog, ond o amddiffyn llain werdd uchaf Prom Newry yn adlewyrchu sylwadau a roddwyd ymlaen gan aelodau Bwrdd Caergybi Ymlaen pan ystyriwyd y mater.
Mae cwmni cyd-fenter wedi ei ffurfio gan Stena a datblygwyr Conygar er mwyn mynd ymlaen efo Cynllun Adfywio Glannau Caergybi yn rhan o'r ardal a welir isod. Y mae Asesiad Effaith Amgylchddol yn cael ei baratoi a digwylir y bydd cais cynllunio ar gyfer datblygiad sylweddol yn cael ei gyflwyno yn ystod 2010.

Llun gyda chaniatad Porthladdoedd Stena Cyf
Am fwy o wybodaeth am Gynlluniau Caergybi, cusylltwch efo Gwasanaeth Datblygu Economaidd Cyngor Sir Ynys Mon ar 01248 752480 neu trwy e-bost "cyswllt" y wefan yma.
Cynllun Datblygu Statudol
Esbonir hwn ar dudalen Strategaeth y Sir.