RHESTR DIGWYDDIADAU CAERGYBI 2010 cliciwch isod www.holyheadforward.com/wisscms-cym-223.aspx
GWYL HWYLIO TRADDODIADOL - mae'r wyl hwylio gaff-rif wedi dychwelyd i Gaergybi gyda nifer o ddigwyddiadau ar dir a mor ar benwythnos cyntaf Medi.
PEDAIR LLONG FORDAITH - daeth pedair llong fordaith i Gaergybi dros bedwar diwrnod ddechrau Medi, yn cynnwys y Crystal Symphony, Europa, Prinsendam, a Le Diamante. Cynhalwyd digwyddiadau yn y dref a ddenodd lawer o bobl lleol hefyd.
DANGOS CYNLLUN £70M TWRBINAU TANDDWR - Bu arddangosfa o gynllun twrbinau tanddwr yn Neuadd y Dref i greu ynni o'r cerrynt cryf gen Ynysoedd y Moelrhoniaid, sy'n rhestr agosrwydd i borthladd Caergybi fel elfen bwysig. Dyddiadau yr arddangosfa oedd Dydd Llun 23 Awst 2-8pm a dydd Mawrth 24 Awst 9am-2pm. Gweler www.marineturbines.com am fanylion pellach.
CROESO I'R WESTERDAM - cafwyd llu o ddigwyddiadau yng nghanol y dref ar Ddydd Sadwrn 7fed Awst a denwyd cannoedd o deithwyr long mordaith, ymwelwyr, a pobl lleol. Bydd ymweliad tren stem i'r dref ar ddydd Sul yr 8fed Awst.
CANOLFAN YMWELWYR NEWYDD - maw canolfan ymwelwyr newydd wedi agor yng nghanol y dref. Mae yn cael ei rdeg gan Bartneriaeth Plas Cybi a Menter a Busnes, ac fe'i ariannir gan Gyngor Sir Ynys Mon, y Cynulliad ac Undeb Ewrop. Gweler gwefan Plas Cybi www.plascybi.co.uk
ENNILL CYMRU MEWN BLODAU - Mae Caergybi wedi ennill category tref maint canolig cystadleuaeth Cymru mewn Blodau 2010. Roedd y beirinaid yn canmol gwaith tim amgylcheddol Partneriaeth Plas Cybi.
CADEIRYDD NEWYDD I FWRDD ADFYWIO - Etholwyd Cynghorydd John Chorlton fel cadeirydd newydd Bwrdd Caergybi Ymlaen at y 1af Gorffennaf 2010.
DIWRNOD LLUOEDD ARFOG YNYS MON 2010 - Dydd Sadwrn 19 Mehefin - Bu digwyddiad lluoedd arfog pwysig yng Nghaergybi yn rhoi diwrnod diddorol i deuluoedd i ymweld a'r dref. Roedd yn cynnwys cofiant VC, seremoni codi'r faner, gorymdaith fawr trwy ganol y dref, gweithgareddau a ffair, seremoni ymadael, a HMS Shoreham.
NETTO I NEWID YN ASDA ? - mae Asda wedi prynu siopau Netto, ac y mae posib y gwelir siop Netto ar gyffordd 1 Caergybi yn newid yn Asda.
LLONG HWYLIO YN GALW OND LLONG FORDAITH YN CANSLO - bydd llong hwylio fawr yr Artemis yn ymweld a Marina Caergybi ar Ddydd Mawrth y 1af Mehefin, ond ni fydd llong fordaith y Deutschland yn ymweld ar ddiwedd yr wythnos oherwydd "rhesymau technegol" - aeth yr injian ar dan tra'n ymweld a Norwy.
DELWEDD NEWYDD I WILKINSONS - Bydd siop Wilkinsons Caergybi yn cael ei ail-wampio a bydd ail-agoriad ar ei wedd newydd ar ddydd Iau 3 Mehefin.
LANSIO CYNLLUN MARCHNATA TREFI - Cafwyd lansio swyddogol y cynllun BRAND rhwng Caergybi, Rhyl, Dun Laoghaire ac Athy ar y 19 Mai 2010. Ariannir 75% dan gynllun Interreg Ewrop, gyda chefnogaeth i elfen Caergybi gan gynghorau Ynys Mon a Tref Caergybi a Llywodraeth y Cynulliad.
70 MLYNEDD ERS SUDDO FFERI YN DUNKIRK - cafodd fferi y Scotia o Gaergybi ei ddefnyddio gan y Llynges i gludo milwyr yn 1940. Ar ei trydydd taith allan o Dunkirk fe'i suddwyd gan fom o awyren gyda colli llawer o fywydau. Cynnigor mynediad am ddim yn y cyfnod 29 Mai - 4 Mehefin 2010 i rai sydd yn cwblhau holiadur i ymwelwyr. Gweler www.holyheadmaritimemuseum.co.uk/page7.htm ac am gyfrif y capten o'r diwrnod gweler www.holyhead.com/hmsscotia/index.html
LANSIO CYNLLUN AIL-FRANDIO - Cafodd cynllun i ail-frandio trefi Cargybi, Rhyl, Dun Laoghaire, ac Athy ei lansio yn swyddogol ar yr 18 Mai 2010. Mae wedi ei ariannu 75% dan raglen Interreg Ewrop, ac mae y Cynulliad, y Cyngor Sir, a'r Cyngor Tref yn ariannu'r gweddill. Daeth dros 80 o bobl ynghyd i Ganolfan Ucheldre ar y 25 Mai 2010 i drafod blaenoriaethau lleol, ac mae adroddiad ar hyn yn cael ei baratoi.
CYTUNO DATBLYGIAD AR BARC CYBI - Mae Pwyllgor Cynllunio Mon wedi cefnogi datblygiad o unedau dosbarthu a swyddfeydd ar Barc Cybi ger cyffordd 2 yr A55. Amcangyfrifir y bydd y cynllun yn costio £10m ac yn creu hyd at 450 o swyddi.
TREN STEM I GAERGYBI - Bydd y cyntaf o dri ymweliad tren stem i Gaergybi yn digwydd ydd Sadwrn 24 Ebrill. Bydd y tren 400 teithiwr yn dod o Lincoln ac yn cael ei dynnu gan injian 6233 Duchess of Sutherland. Disgwylir y bydd yn cyrraedd tua 12:30pm a gadael tua 3:45 pm. Bydd Rhufeiniaid hefyd yn bresennol yn y dref. Gweler www.prclt.co.uk am fanylion.
GWELLA PARC Y MORGLAWDD - Mae cynlluniau ar y gweill i wella y Parc a bydd cyfle i'r cyhoedd i roi eu barn yno ar Ddydd Sadwrn 24 Ebrill.
TYWYSOG WILLIAM YN RAF Y FALI - Mae Flt Lt Wales yn debygol o wasanaethu am gyfnod o dair blynedd yng nghorsaf RAF y Fali ger Caergybi yn gweithio ar hofrennydd chwilio ac achub.
CYNLLUN DELWEDD TREF - Mae Siwan Owens o'r Fali wedi ei chyflogi fel Swyddog Marchnata Caergybi. Bydd yn arwain cynllun gwella delwedd Caergybi, rhan o bartneriaeth gyda arian Interreg Ewrop rhwng trefi Caergybi, Rhyl, Dun Laoghaire, ac Athy
CEBL FFIBR-OPTIG NEWYDD I DDULYN - Mae cwmni Gwyddelig Sea Fibre Networks Ltd wedi gwneud cais am ganiatad morol i osod cebl newydd rhwng Iwerddon a Prydain, i lanio yn Mhorth Dafarch ger Cargybi. Bydd yn cysylltu Iwerddon gyda'r cebl presennol sy'n rhedeg o Gaergybi i Faenceinion, ac yna i Lundain, Ewrop, ac ymhellach. Mae'r cynlluniau wedi eu rhoi i'w gweld yn Llyfrgell Caergybi. Enw manachu y cwmni yw CeltixConnect. Gweler gwefan www.celtixconnect.com
GWAHODD SYLWADAU AR BIOMASS - Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gwahodd sylwadau gan y cyhoedd ar gais gan Anglesey Aluminium Renewables Ltd am bermit amgylcheddol i redeg gorsaf ynni biomass i losgi coed. Mae nhw yn gofyn am sylwadau cyn Mai 28fed 2010. Gweler linc gwefan yma www.environment-agency.gov.uk/research/library/consultations/117702.aspx Ceir crynodeb ar y cynllun ar www.angleseyaluminium.co.uk/Biomass.htm
ARDDANGOS CYNLLUN YNNI YN Y MOR - Bydd cwmni ynni Centrica yn arddangos eu syniadau i godi fferm wynt enfawr yn y mor rhwng Ynys Mon ac Ynys Manaw. Efallai y bydd Cergybi yn chwarae rhan fawr yn adeiladu a gwasaethu y datblygiad. Bydd yr arddangosfa yn Neuadd y Dref Caergybi ar ddydd Mawrth 20 Ebrill 11am-7pm. Linc i wefan Centrica www.centricaenergy.com/index.asp?pageid=21&area=round3developments
PRIF SAFLE GORSAF YNNI - Disgwylir y bydd Horizon, sef cyd-fenter rhwng cwmniau ynni RWE ac E.on yn cyhoeddi mai Ynys Mon yw eu prif safle i adeiladu gorsaf ynni niwclear newydd erbyn 2020. Diasgwylir y bydd y cynllun werth tua £7 biliwn o bunnoedd yn creu miloedd o swyddi adiladu a tua 800 o swyddi parhaol. Caergybi yw'r brif dref agosaf i'r safle. Linc i wefan Horizon isod www.horizonnuclearpower.com/welsh/wylfa.php
CROESO I WYLIAU TRETH BUSNES - Mae Siambr Fasnach Caergybi wedi rhoi croeso i'r cyhoeddiad y bydd y cynllun lleihad treth busnes ychwanegol a gyhoeddwyd yn y gyllideb yn cael ei ymestyn i Gymru. Bydd eiddo busnes bach yn talu dim treth am 12 mis o Hydref 2010 ymlaen, gyda gostyngiad hefyd i eiddo canolig.
SIOP DILLAD DYNION NEWYDD MEWN HEN ADEILAD- Yn dilyn gofyn lleol ers blynyddoedd, mae siop dillad dynion wedi agor mewn adeilad hanesyddol yng nghanol y dref. Ace 4 Men yw unig siop ddillad Caergybi, ac mae wedi ei leoli yn Sgwar y Marchnad, gyda rhan o'r adeilad yn 1,700 oed.
CYNLLUN GWELLA TREFOL - Yn dilyn cymeradwyaeth gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i gychwyn, mae Adran Gynllunio Cyngor Mon yn y broses o ddewis person profiadol mewn adnewyddu hen adeiladau i reoli Cynllun £3m Treftadaeth Trefol Caergybi a fydd yn golygu gwella adeiladau a lleoliadau o fewn canol y dref.
CYNLLUNIAU MAWR I NEUADD Y FARCHNAD - Mae cais cynllunio wedi ei wneud i addasu'r llawr gwaelod i greu canolfan chwarare a caffi / bwyty, gyda 11 o fflatiau uwchben, ac hefyd i adeiladu bloc newydd o fflatiau ar y tir gerllaw.
FFATRI MELINAU GWYNT - Mae cyhoeddiad gan Peter Hain AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn datgelu bod cynlluniau dan ystyriath i sefydlu ffatri adeiladu melinau gwynt ar safle Aliwminiwm Mon.
MWY O LONGAU MORDAITH - Bydd tair ar ddeg o longau mordaith yn ymweld a Caergybi yn 2010 gan gludo dros 7,000 o deithwyr. Bydd hefyd dri taith tren stem i'r dref. Mae 11 o longau eisioes wedi bwcio erbyn 2011 yn dod a 15,000 o deithwyr.
CEFNOGI EHANGU TESCO - Mae Cyngor Sir Ynys Mon wedi cefnogi cais cynllunio i ganiatau egangu ac addasu siop Tesco yng Nghaergybi.
CYNLLUN TWRISTIAETH GOGLEDD CYMRU -Mae Cyngor Mon wedi cefnogi strategaedd newydd sy'n cyfeirio at Gaergybi fel canolfan twristiaeth, yn cynnwys adeiladu glanfa cychod mordaith.
CYNLLUNIAU YNNI YN Y MOR - Mae dau gynllun mawr ar gyfer ynni adnewyddol yn y mor ger Caergybi wedi cymeryd cam ymlaen. Y mae cwmniau MCT ac npower yn gobeithio lleoli saith tyrbin cerrynt tanddwr ger Ynys y Moelrhoniaid - mae buddsoddwyr yn cynnwys y Carbon Trust wedi cytuno i ariannu datblygu y cynllun. Ymhellach i'r gogledd, mae Stad y Goron wedi rhoi trwydded i Centrica Renewable Energy i leoli 840 melin wynt yn y mor. Mae'n bosib y bydd rol i Caergybi wrth adeiladu a gwasanaethu y cynlluniau yma.
NEWID GWASANAETH FFERI CYFLYM STENA - Bydd yr HSS Explorer yn y dyfodol ond yn hwylio yn ystod misoedd yr haf (28 Mehefin - 5 Medi) gyda'r Stena Express yn cymeryd ei le weddill y flwyddyn. Mae yn llai ei faint, ac ar hyn o bryd yn gwasanaethu rhwng Abergwaun a Rosslare. Ni ddisgwylir diswyddiadau oherwydd y newid.
Ar gyfer eitemau newydd cynt, gweler "2009" yn ein hadran "Newyddion a Digwyddiadau"