05/02/2012 - 08:27
Diweddarwyd - 22/01/2012 13:51

CYNLLUN AIL-FRANDIO CAERGYBI

Y mae cynllun marchnata newydd i Gaergybi ac Ynys Gybi ar y gweill ac yn cael ei reoli gan Fliss Roberts sydd wedi ei lleoli yn Neuadd y Dref. . Y mae'r prosiect yn rhan o bartneriaeth gyda trefi Rhyl, Dun Laoghaire, ac Athy. Ariannir y cynllun yn bennaf gan raglen Interreg Ewrop, gyda arian cyfatebol gan y Cynulliad, Cyngor Sir Ynys Mon, a Cyngor Tref Caergybi.

 

 

 

Croeso i Caergybi Ymlaen
       
Croeso i wefan Caergybi Ymlaen.

Pwrpas y wefan hon yw i ddarparu gwybodaeth ar adfywio Caergybi a'ch hysbysu am brosiectau a chynlluniau i wella'r dref, ac am ddigwyddiadau. Rydym am ddatblygu y wefan ymhellach dros amser.

Rydym yn gobeithio y gwnewch ei hystyried i fod yn ddefnyddiol ac addysgiadol, ac y gwnewch ymweld eto yn fuan.

                                                   Llun Cyng John Chorlton

Cyng. W.John Chorlton, Cadeirydd Bwrdd Caergybi Ymlaen

 

Cefndir
       

Gweledigaeth uchelgeisiol dros gyfnod o 10 mlynedd yw Caergybi Ymlaen, ar gyfer tref Caergybi, yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Lansiwyd y fenter hon ym 2003, roedd cefnogaeth lawn y cyhoedd i welliannau yng Nghaergybi yn amlwg. Fe drefnwyd arddangosfa 3 diwrnod i'r cyhoedd, fe fynychodd 2,000 o bobl.

Mae nifer o brosiectau adfywio ar droed a nifer ar ôl i'w cwblhau. Fe grewyd y wefan hon er mwyn hysbysu trigolion lleol am y rhaglen adfywio eang, ac fe ddylir hefyd ennyn diddordeb buddsoddwyr, ymwelwyr ac ymchwilwyr posibl.

Fe grewyd y wefan yn 2003 fel rhan o Gynllun Adfywio Tref Caergybi a arianniwyd gan Undeb Ewrop, y Cynulliad a Chyngor Sir Ynys Môn.  Ariannir rhedeg y wefan rwan dan gynllun BRAND sydd wedi ei noddi gan Undeb Ewrop, y Cynulliad, a Cynghorau Mon a Caergybi.

Uned Datblygu Economaidd y Cyngor sydd yn rheoli'r wefan. Rydym yn awgrymu eich bod yn lawrlwytho'r fersiwn diweddaraf o'ch porwr gwe er mwy gweld y wefan ar ei orau.

DIWEDDARAF CAERGYBI ...
       

RHESTR DIGWYDDIADAU CAERGYBI 2011 cliciwch isod  www.holyheadforward.com/wisscms-cym-223.aspx   

GEFEILLIO CAERGYBI A GREYSTONES - Bu seremoni gefeillio swyddogol ar y 20 Ionawr 2012 rhwng cynrychiolwyr o Gyngor Tref Caergybi a Chyngor Tref Greystones yn Swydd Wicklow, Iwerddon. Mae y ffaith wedi ei nodi trwy arwydd newydd ar yr A55 sy'n dangos enw Greystones yn y Wyddeleg, sef Na Clocha Liatha. http://en.wikipedia.org/wiki/Greystones 

MARATHON CAERGYBI AC YNYS GYBI - Cynhalwyd rasus Endurancelife ar Ddydd Sadwrn 21 Ionawr 2012 yn cychwyn a gorffen ym Mharc y Morglawdd. Gweler www.endurancelife.com

£7.9M I ADEILADU YSGOL NEWYDD -  Mae Llywodraeth Cymru wedi cutuno grant i Gyngor Sir Ynys Mon i adeiladu ysgol gynradd newydd yng Nghaergybi

COELCERTH A TAN GWYLLT CAERGYBI - Bydd y Ford Gron yn cynnal eu digwyddi9ad mawr blynyddol eto ar Draeth Penrhos at Ddydd Sant Cybi, Nos Sadwrn y 5ed Tachwedd 2011. Bydd y giat yn agor 6pm, y tan yn cynnau 6:30pm, a'r tan gwyllt yn cychwyn 7pm. 

CYNLLUN CERDDED A BEICIO GWYRDD - Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cytuno i ariannu cynllun £340k i hybu cerdded a beicio o gwmpas Ynys Gybi. Bydd y cynllun gan Cadw Cymru'n Daclus yn creu cysylltiadau rhwng canol y dref, Parc y Morglawdd, Ynys Lawd, Trearddur, a'r Fali. www.keepwalestidy.org/8498

NOSON GOMEDI GER Y BONT - Bydd noson gomedi efo Tudur Owen ac eraill yn cymeryd lle ar nos Fercher 23 Tachwedd am 8pm. Tocynnau £10. Ffon 01407 762229 neu gweler www.venuewalkway.co.uk

CWMNI TAFARNDAI YN LLYGADU CYFFORDD 2 - Mae cwmni cwrw a tafarndai Marstons wedi gwneud cais cynllunio i adeiladu tafarn a bwyty mawr ar dir ger Morrisons yn agos i gyffordd 2 yr A55 yng Nghaergybi.  

RIFF DEIFIO GER TREARDDUR ? Bydd Cyngor Mon yn cynnal ymgynghori cyhoeddus ar y syniad o greu fiff i ddeifwyr trwy suddo pethau diddorol yn y mor. Cynhelir yn y Clwb Chwaraeon Dwr ger Gwesty Bae Trearddur ar Ddydd Mercher y 26 Hydref 2011 rhwng 11am a 3pm.

CANOLFAN TRAFNIDIAETH I BARC CYBI - Mae LLywodraeth y Cynulliad wedi cytuno i werthu safle naw erw i gwmni Conygar i greu parc trafnidiaeth a dosbarthu, yn cynnwys parc i hyd at 140 lori, lle cael diesel, cyfleusterau i ddreifwyr, a canolfan gwasanaethu HGV's - cynllun tua £5m allai greu hyd at 70 swydd. Disgwylir cais cynllunio yn fuan. Gweler    www.conygar.com/Project/ParcCybi/5a   

YMGYNGHORI AR GYNLLUN PENTREF GWYLIAU - Bydd cwmni Land and Lakes yn cynnal arddangosfa ac ymgynghoriad ar eu cynlluniau datblygu hamdden a tai ar Ddydd Gwener 21 Hydref (10am-7pm) a Dydd Sadwrn Hydref 22 (10am - 2pm) yn Neuadd y Dref, Caergybi. Gweler www.landandlakes.co.uk

DYFODOL SAFLE ALIWMINIWM - cyhoeddwyd mai cwmni Lateral Power Limited yw'r cwmni a fydd yn cymeryd safle Aliwminiwm Mon, ac fod eu cynllun yn cynnwys gorsaf bwer biomass a fferm bysgod fawr a tai gwydr, a fydd yn creu oddeutu 400 o swyddi.

ENNILL PRYDAIN MEWN BLODAU - Mae Caergybi wedi ennill gwobr am fod yn un o drefi blodeuog Prydain yng nghystadleuaeth 2011. Gweler www.rhs.org.uk/Gardening/Community-gardening/pdf/RHS-Britain-in-Bloom-Results-2011-pdf

CYHOEDDI ARDAL FENTER I GAERGYBI - Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd Ardal Fenter i'r Sector Ynni yn cael ei greu ar Ynys Mon - disgwylir mai Caergybi fydd y prif ffocws.

CYMERDWYO GORSAF YNNI BIOMASS - Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi caniatad i adeiladu gorsaf ynni biomass 299MW ar safle Aliwminiwm Mon - gallai greu tua 600 o swyddi adeiladu a 100 o swyddi parhaol.  Gweler linc www.og.decc.gov.uk/EIP/pages/recent.htm

NOFIO I IWERDDON -  Bu Ronan Keating, Pamela Stephenson, Jenny Frost, Jason Bradbury and Steve Parry yn nofio o Farina Caergybi i Ddulyn er mwyn codi arian i Cancer Research UK.

COETS FAWR O LUNDAIN - Bydd coets fawr a ceffylau yn teithio o Lundain i Gaergybi, yn cyrraedd dydd Iau 30 Mehefin 2011 gyda digwyddiad ar y promenad rhwng 7:30pm a 9:30pm. Gweler www.s4c.co.uk/ygoetsfawr

NETTO YN NEWID I ASDA - Bydd siop Netto Caergybi ar gyffordd 1 yr A55 yn derbyn gwaith addasu gwerth £500k ac yn ail agor fel siop Asda.

BUSNES NEWYDD I GANOL Y DREF - Bydd caffi, bar, bwyty, ac ystafell digwyddiadau yn agor yn Stryd y Farchnad dros yr haf gan greu hyd at 20 o swyddi. 

CYNLLUN I GREU CANOLFAN GWYLIAU MAWR - cafwyd newydd bod Grwp Kingmoor Park Properties wedi cytuno opsiwn efo Aliwminiwm Mon i greu canolfan gwyliau sylweddol ar dir Stad Penrhos yng Nghaergybi - cynllun allai greu 600 o swyddi.

KFC YN AGOR - Y mae bwyty KFC cyntaf Ynys Mon wedi agor ar barc siopa Penrhos, ac wedi cyflogi 44.

HOT YN CAU - Mae Ymddiriedolaeth Cyfleon Caergybi wedi gorfod cau oherwydd diffyg contractau gwaith ar ol Mai. Y mae gwaith caled y staff dros y 20 mlynedd diwethaf wedi ei ganmol.

PRIODAS BRENHINOL YN HYBU TWRISTIAETH - Mae twf sylweddol wedi bod mewn ymholiadau am lyfryn twristiaeth Ynys Mon, yn awgrymu y gallai fod yn dymor llwyddiannus.  

TWF CWMNI CYCHOD - Mae Holyhead Boatyard wedi ei restru ymysg y Sunday Times Profit Track 100 oherwydd twf mewn elw sylweddol.

ARDAL FENTER CAERGYBI? - Mae'r Gweinidog Gwladol David Jones AS wedi awgrymu y gallai Caergybi fod yn Ardal Fenter gyntaf Cymru er mwyn hybu buddsoddi busnes. Mae sawl Ardal Menter wedi eu cyhoeddi yn Lloegr yn ddiweddar.

CWMNI IARD GYCHOD YN BUDDSODDI £2.7M - mae grwp gwasaethau morwrol Holyhead Boatyard yn buddsoddi mewn dau gwch newydd diolch i fenthyciad gan Finance Wales. Bydd un o'r cychod yn cael ei ddefnyddio i wasanaethu y diwydiant ynni gwynt yn y mor.

TRWYDDED I ORSAF BWER - Mae Asiantaeth Amgylchedd Cymru wedi rhoi trwydded i Anglesey Aluminium Metal Renewables Ltd i redeg gorsaf bwer biomass i losgi pren. Mae'r penderfyniad terfynol ar roi caniated efo Adran Ynni Llywodraeth Prydain. 

DATBLYGIAD PRESWYL £8.7M - Mae tenantiad wedi cychwyn symud i mewn i ran gyntaf datblygiad Penucheldre gan Tai Eryri i hyrwyddo byw annibynnol i bobl hyn. Wedi ei orffen bydd yn cynnwys 54 fflat un neu ddau lofft, bwyty, ystafell ffitrwydd, ystafelloedd byw a therapi, a llofftydd i ymwelwyr.

CWPWL BRENHINOL YN NHREARDDUR - Bu'r Tywysog William a Kate Middleton yn enwi bad achub newydd yng ngorsaf bad achub Bae Trearddur.

CAU GORSAF GWYLWYR Y GLANNAU - Bu cyfarfod protest ar Ddydd Sadwrn 19 Chwefror 2011 yn erbyn cynlluniau gan Asiantaeth yr MCA i gau gorsaf Gwylwyr y Glannau Caergybi. Gweler www.holyheadcoastguard.co.uk am fanylion.

TRWYDDED PWERDY BIOMASS - Bydd Asiantaeth Amgylchedd Cymru yn cynnal sesiwn gwybodaeth cyhoeddus ar Ddydd Iau yr 17 Chwefror 2011 yng Nghanolfan Gmunedol Ffordd Llundain i egluro eu bwriad drafft i roi trwydded i ddatblygiad pwerdy biomass £600M gan gwmni AAM Renewables Ltd. Bydd cyfnod pellach o ymgynghori tan y 4ydd Mawrth 2011 cyn y bydd penderfyniad ar y drwydded. Gweler www.environment-agency.gov.uk/research/library/consultations/127154.aspx

CREFFTAU MON YN UCHELDRE -  Bydd arddangosfa a gwerthiant o grefftau gan Grefftwyr Mon yng Nghanolfan Ucheldre rhwng Dydd Mawrth 15 Chwefror a Dydd Sul 20 Mawrth 2011.

HEDFAN I BELFAST AC YNYS MANAW - Bydd y cwmni sy'n hedfan rhwng Ynys Mon a Caerdydd sef Manx 2 yn cynnig gwasanaeth tymorol yn ystod haf 2011 i gysylltu Ynys Mon efo Belfast ac Ynys Manaw. Gweler www.manx2.com am anserlen a prisiau. Mae Maes Awyr Mon wedi ei leoli ger y Fali i'r de o Gaergybi.

TRI CYNLLUN YN LLWYDDO - Mae tri cynllun am elwa o grantiau gwella cyfleusterau cymunedol y Cynulliad, yn cynnwys £300k i Ganolfan Ucheldre, £200k i Sgowts y Mor, a £215k i Gwmni Cymunedol gofal plant Kiddyland. Bydd 16 cynllun ar draws Cymru yn derbyn £3M.

CAERGYBI YN BLODEUO - Yn dilyn llwyddiant yng nghystadleaeth Cymru mewn Blodau 2010, mae Caergybi wedi ei ddewis gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol i fod ar restr fer yng nghystadleuaeth Prydain mewn Blodau 2011. Bydd cyfarfod cyhoeddus i egluro y cynllun a creu pwyllgor a denu gwirfoddolwyr yn cael ei gynnal ar y 4ydd Mawrth 2011 yn Neuadd y Dref. Gweler www.holyheadinbloom.com

AMGUEDDFA YN CAEL EU GWOBRWYO - Cafodd Amgueddfa Arforol Caergybi y wobr am gyfraniad arbennig i dwristiaeth Mon yn seremoni Gwobrau Twristiaeth Mon 2011. Cafodd Blackthorn Farm y wobr am y maes carafan a campio gorau ar Ynys Mon. Ion11

CYNGOR TREF YN CEFNOGI CYNLLUN DATBLYGU - Mae Cyngor Tref Caergybi wedi penderfynu i argymell y dylid cefnogi cais cynllunio cwmni Conygar Stenaline Cyf ar gyfer Cynllun Adfywio Glannau Caergybi, yn amodol ar cadw a gofalu am ardal werdd y Newry a'r Morglawdd. Ion11

DANGOS CYNLLUNIAU ADFYWIO - Bu arddangosfa o gynlluniau adfywio canol tref ar Ddydd Llun 24 Ionawr 2011 yn y Ganolfan Ymwelwyr yn Stryd y Farchnad, ble mynychodd dros 120 o bobl.

 MARATHON CAERGYBI - Cynhalwyd Marathon, Hanner Marathon, a Ras 10k Endurance Life ar Ynys Gybi ar ddydd Sadwrn 22 Ionawr 2011 yn cychwyn o Barc y Morglawdd. Cliciwch ar www.endurancelife.com/event.asp?series=36&location=111 am fanylion. I weld clipiau fideo am y ras gweler  http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9370000/newsid_9371500/9371599.stm

TEITHIAU TREN GORAU PRYDAIN -  Roedd Michael Portillo yn ymweld a Caergybi yng nghyfres 2, gyda rhaglen Llanberis i Gaergybi wedi ei ddangos ar BBC2 Dydd Gwener 14 Ionawr am 6:30pm.

GWEINIDOG YNNI YN YMWELD - Bu Gweinidog Ynni Llywodraeth Prydain o gwmpas Porthladd Caergybi ar y 10fed Ionawr 2011 i weld ei botensial i wasanaethu datblygiadau ynni yn y mor.

CANIATAD I GABANAU - Mae  pwyllgor cynllunio Mon wedi cefnogi cais cynllunio i godi 51 o gabanau gwyliau pren yn Bagnol ger Bae Trearddur.

DELI NEWYDD YN AGOR - Mae siop delicatessen newydd wedi agor yng nghanol y dref gan bobl busnes lleol, gyda chymorth Menter a Busnes.

CADETS Y MOR I GAEL ARIAN LOTERI - Llwyddodd cais Cadets y Mor Caergybi i gael cymorthdal o tua £250k at wella eu canolfan yn ardal Traeth Newry.

CAU GORSAF GWYLWYR Y GLANNAU - Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi bwriad i gau gorsaf Caergybi allai olygu colli 23 o swyddi fel rhan o gynlluniau arbed arian trwy Brydain.

CANOLFAN HYFFORDDI I WEITHWYR DIWYDIANNOL - Mae Undeb UNite a cwmni Eaton Electric wedi sefydlu canolfan hyfforddi a chynghori ar safle ffatri Eaton.

CYNLLUN DATBLYGU GLANNAU CAERGYBI - Mae cwmni Conygar Stenaline Cyf wedi cyflwyno cais cynllunio amlinellol i Gyngor Sir Ynys Mon ar gyfr datblygiad mawr yn ardal yr harbwr allanol. Mae'r cynlluniau yn cynnwys marina, tai, gwesty, defnyddiau masnachol a hamdden, adennill tir, ac isadeiledd gwasanaethu. Cyfeirnod yr awdurdod cynllunio ydi 19C1046A/EIA/ECON. Ma'r cais yn dilyn arddangosfa gyhoeddus yn mis Tachwdd. Gwefan y datblygwr ydi www.holyheadwaterfront.co.uk

 Ar gyfer eitemau newydd cynt, gweler "Archif Newyddion" yn ein hadran "Newyddion a Digwyddiadau"

 

Dylunio a deilio gan WiSS Cyf, gyrrwyd gan WiSSCMS
Hawlfraint © 2012